Gyda Wythnos Iechyd Llygaid Genedlaethol (22–28 Medi) newydd ddod i ben, rydyn ni’n cymryd y cyfle yma i dynnu sylw at brosiect sy’n agos iawn at ein calonnau yma yn Nhirweddau Cymru | Landscapes Wales. Mae ein partneriaeth â RNIB Cymru – Golwg Gwahanol ar Gymru – Hiraeth – yn helpu i drawsnewid y ffordd rydym yn meddwl am hygyrchedd, cynhwysiant a lles ar draws ein tirweddau mwyaf annwyl.
Wedi’i lansio ym mis Ebrill 2025, mae’r prosiect tair blynedd yma, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, eisoes yn ysbrydoli newid ystyrlon ar draws Tirweddau Dynodedig Cymru. Mae’r weledigaeth yn feiddgar ond yn syml: creu mannau awyr agored lle gall pobl ddall a rhannol ddall fwynhau mynediad ystyrlon ac annibynnol i natur, tra’n codi ymwybyddiaeth o iechyd llygaid mewn cymunedau gwledig.
Newid y Tirwedd o ran Mynediad
Yn ei hanfod, nod Golwg Gwahanol ar Gymru yw chwalu’r rhwystrau corfforol, technolegol a chymdeithasol sy’n atal pobl â nam ar eu golwg rhag profi Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru yn llawn. Mae’r prosiect yn cynnwys amrywiaeth o fentrau cyffrous, megis mapio llwybrau cerdded hygyrch a synhwyraidd, archwilio datrysiadau technolegol arloesol i wella cysylltiad ag ardaloedd a chanolfannau ymwelwyr, a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o golled golwg i staff a gwirfoddolwyr.
Nid gwella seilwaith yn unig yw’r nod – mae’n ymwneud â newid safbwyntiau. Sut gallwn gynllunio mannau gyda phawb mewn golwg o’r cychwyn cyntaf? Sut gallwn wneud y byd naturiol yn fwy cynhwysol, croesawgar ac iachusol i bobl ag anghenion gwahanol?
Codi Ymwybyddiaeth yng nghefn gwlad Cymru
Un ffocws allweddol arall yw codi ymwybyddiaeth o iechyd llygaid a cholled golwg y gellir ei hatal mewn cymunedau gwledig. Gyda chymorth partneriaid fel Yellow Wellies, Ffermwyr Ifanc Cymru, milfeddygon lleol ac undebau ffermwyr, mae’r tîm prosiect yn cyflwyno digwyddiadau hyfforddi byr, hwyliog ac effeithiol ar hyd a lled Cymru.
Pam mae hyn mor bwysig? Oherwydd bod iechyd llygaid yn aml yn cael ei anwybyddu, er mai golwg yw’r synnwyr y mae pobl yn ofni ei golli fwyaf. Bydd bron 1 ym mhob 5 ohonom yn profi colled golwg yn ein hoes – fodd bynnag, mae hanner yr holl golled golwg yn gallu cael ei hatal.
Mae’r broblem hon yn arbennig o ddifrifol mewn cymunedau ffermio, lle gall mynediad at wasanaethau iechyd fod yn gyfyngedig. Yn ôl ymchwil gan Sefydliad Diogelwch Fferm (Yellow Wellies) yn 2025, nododd bron i 40% o ffermwyr eu bod wedi cael anaf i’r llygad yn y gwaith o fewn y flwyddyn ddiwethaf. Gall ymyriadau syml, addysg a chanfod cynnar wneud gwahaniaeth enfawr – a dyna’n union yw’r hyn mae’r prosiect hwn yn anelu i’w gyflawni.
Iechyd Llygad: Cyfrifoldeb a Rennir

Fel rhan o Wythnos Iechyd Llygaid Genedlaethol, mae tîm Golwg Gwahanol ar Gymru yn annog pawb – yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn yr awyr agored neu mewn lleoliadau gwledig – i gymryd iechyd eu llygaid o ddifrif.
Nid am greu ofn yw hyn – ond am rymuso pobl i warchod eu golwg a chymryd camau pan fo angen. O wisgo sbectol haul â diogelwch UV, i ddefnyddio’r amddiffyniad llygaid cywir ar y fferm, i archebu profion llygaid rheolaidd – mae camau syml ac ymarferol y gallwn ni i gyd eu cymryd i ofalu am ein golwg.
Edrych Ymlaen
Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, bydd tîm Golwg Gwahanol ar Gymru yn teithio ledled Cymru, yn mynychu sioeau gwledig, yn ymweld â chymunedau, ac yn partneru ag optegwyr lleol i gynnig profion llygaid am ddim a chyngor ymarferol. Y nod yw creu rhwydwaith cryfach, mwy cysylltiedig o bobl sy’n deall sut i ofalu am eu golwg – ac yn gallu cefnogi eraill i wneud yr un peth.
Diolch o Galon
Hoffem gymryd eiliad i gydnabod yr egni, brwdfrydedd a’r ymroddiad anhygoel gan bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hyd yn hyn – o staff a phartneriaid y prosiect i wirfoddolwyr, ffermwyr ac aelodau cymunedol. Mae Gareth Davies, sy’n arwain y prosiect ar ran RNIB Cymru, wedi’i syfrdanu gan y gefnogaeth a dderbyniwyd ar draws Cymru.
“Fel rhywun sydd â phrofiad personol o golli golwg, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r gwaith hwn – a pha mor bwerus yw’r teimlad o gael ein gweld a’n cefnogi yn y tirweddau rydym yn eu galw’n gartref.” – Gareth Davies
Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect, neu ddarganfod sut gallwch gymryd rhan, cysylltwch â:
📧 SCD@rnib.org.uk
neu
📧 annaj@pembrokeshirecoast.org
Gadewch i ni wneud yn siŵr bod lleoedd harddaf Cymru yn fannau y gall pawb eu mwynhau.
Gyda diolch a gwerthfawrogiad o waelod calon,
Anna
Arweinydd Strategol Cynhwysiant, Amrywiaeth a Rhagoriaeth Llywodraethu
Tirweddau Cymru | Landscapes Wales
