
Arweiniodd y Gweinidog Newid Hinsawdd archwiliaddwfn i ddull gweithredu Cymru o ran rhoi targed Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-Eang y Confensiwn arAmrywiaeth Fiolegol (CBD) ar waith, sef diogelu o leiaf 30% or tir a 30% or mor erbyn 2030.
Ceisiodd yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth ddatblygu cyfres o gamau cydweithredol y gallwn eu cymryd ar unwaith i gefnogi’r broses ystyrlon o gyrraedd ein nod o ‘30 erbyn 30’, gan gydnabod y galluoedd sydd gennym yng Nghymru, ac adlewyrchu’n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd.
Roedd wyth o argymhellion.
Mewn ymateb i argymhelliad 3 o’r Archwiliad Bioamrywiaeth Dwfn ‘Datgloi potensial tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) i gyflawni mwy ar gyfer byd natur a 30 erbyn 30’ mae Gweithgor Tirweddau Dynodedig wedi’i ffurfio.
Prif ddiben y grŵp ydy sicrhau cynnydd a gweithredu ar y cynllun gweithredu a ddatblygwyd gan y Tirweddau Dynodedig, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’r Gweithgor Tirweddau Dynodedig yn adrodd i Grŵp Craiddyr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth, sy’n adrodd i’r Gweinidog Newid Hinsawdd.
Rydym yn falch o allu cyhoeddi’r adroddiadau gan y gweithgorau Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiadau’n nodi camau gweithredu ar y cyd i gefnogi adfer natur yng Nghymru. Maent hefyd yn cyfrannu at gyflawni targed y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD), sef bod o leiaf 30 y cant o dir, dŵr croyw a moroedd yn cael eu diogelu a’u rheoli’n effeithiol, eu llywodraethu’n deg, a’u cysylltu’n dda erbyn 2030.
Mae cyhoeddi’r adroddiadau hyn yn gyfle i gydnabod y gwaith caled a wnaed gan aelodau’r grwpiau i gyrraedd y cam hwn ac mae’n bleser gallu eu rhannu.
Fel Cadeirydd Tirweddau Cymru ac aelod o’r Grŵp Arbenigol Tirweddau Dynodedig, da o beth hefyd yw gweld y consensws ar bwysigrwydd Tirweddau Dynodedig Cymru ar gyfer adfer natur.
Fel Tirweddau Dynodedig byddwn yn parhau i gyfarfod a chanolbwyntio ar ein gwaith i gyfrannu at adfer natur a’r targed 30 erbyn 30. Ochr yn ochr â’n cyfraniad, bydd gan Fesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail Ardal (OECMau) rôl bwysig i’w chwarae o ran adfer natur a chyflawni’r targed 30 erbyn 30 yng Nghymru.
Mae OECMau yn ardaloedd sydd y tu allan i Dirweddau Dynodedig ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Grŵp Arbenigol OECMau wrth iddynt weithio i nodi ac adrodd ar OECMau.
Mae’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) wedi cyhoeddi offeryn ar gyfer adnabod OECMs, sydd ar gael yma:
Mae pob grŵp arbenigol wedi cyhoeddi adroddiad o argymhellion cychwynnol.
Byddwn yn e-bostio diweddariadau gan y Grŵp ar ôl pob cyfarfod. Gallwch chi danysgrifio i’w derbyn yn uniongyrchol yma.