
Tirweddau Cymru, partneriaeth o dirweddau dynodedig Cymru.
Mae Tirweddau Cymru (TCLW) yn bartneriaeth o wyth tirwedd dynodedig Cymru, y pump Tirwedd Cenedlaethol: Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy; a’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Tirweddau Cenedlaethol a’r Parciau Cenedlaethol.
Yn ogystal

Cadeirydd
Mae Tegryn Jones yn Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion, mae’n byw yn Llangwm, Sir Benfro. Mae ganddo radd mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, MBA o’r Brifysgol Agored a chymwysterau ôl-raddedig o’r Sefydliad Addysg, Llundain a Phrifysgol Queen Margaret, Caeredin.
Mae wedi gweithio i Gadwch Gymru’n Daclus, Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, Prifysgol Abertawe, Urdd Gobaith Cymru ac fel athro yn Ysgol Uwchradd Llanidloes.
Mae wedi bod yn ymddiriedolwr y Gymdeithas Hostel Ieuenctid, Sefydliad DPJ, elusen sy’n cefnogi ffermwyr â phroblemau iechyd meddwl ac UNA Exchange elusen sy’n cefnogi pobl ifanc i ymgymryd â chyfnewidiadau rhyngwladol. Yn ogystal mae wedi bod yn Gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen, ysgol cyfrwng Cymraeg 3-16 oed yn Hwlffordd, yn aelod o Glas Cymru a Chyngor Darlledu Addysg Cymru ynghyd ag Is Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod y Garreg Las. Roedd yn aelod o Banel wnaeth ymgymryd ag Adolygiad Teilwredig o Amgueddfa Cymru yn ystod 2022-23 ac mae wedi bod yn Gadeirydd ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro.
Ar hyn o bryd mae’n Aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg, yn Gyfarwyddwr Partneriaeth Parciau Cenedlaethol ac yn Aelod Cysylltiol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn sgil ei rol fel Cadeirydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid y Bwrdd Iechyd.
Is-Gadeirydd
Mae Alun Owen yn Swyddog Cefn Gwlad a Thirwedd Genedlaethol Cyngor Sir Ynys Môn.
Bywgraffiad llawn i ddilyn.

Rheolwr
Ruth yw Rheolwr Tirweddau Cymru Landscapes Wales.
Mae Ruth wedi gweithio yn y maes polisi amgylcheddol a chyfathrebu ers ugain mlynedd a mwy, gan gynnwys swyddi gyda Fforwm Arfordirol Sir Benfro, PLANED, Prifysgol Caerdydd, RSPB Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae gan Ruth radd mewn Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (BSc) o Brifysgol Caerdydd ac mae ganddi Ddiploma mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Proffesiynol o’r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR).
Mae hi wedi gweithio mewn rolau cadwraeth ymarferol, gan sefydlu prosiectau amgylcheddol cymunedol yng Nghymru, a phrosiectau cadwraeth rhyngwladol yn Senegal, Kenya, Tanzania a’r Ynys Las.
I ffwrdd o’r swyddfa mae Ruth wrth ei bodd yn crwydro Llwybr Arfordir Cymru, yn rhedeg, nofio a yoga, ac mae’n Gyfarwyddwr Gwirfoddol ar Ynni Cymunedol Sir Benfro.

Swyddog Gweinyddol
Elinor yw Swyddog Gweinyddol Tirweddau Cymru.
Mae ganddi 10 mlynedd a mwy o brofiad yn gweithio mewn swyddi gweinyddol, yn bennaf yn y diwydiant amaeth, gyda swyddi yn NFU Mutual a Cylch Peiriannau Sir Benfro.
Graddiodd Elinor o Brifysgol Aberystwyth gyda BSc mewn Bioleg. Mae hi wedi bod yn cymryd rhan yn ei Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol ers 20 mlynedd a mwy, a bu’n allweddol wrth sicrhau grantiau ar gyfer neuadd gymunedol newydd i’r clwb. Hi hefyd yw ysgrifennydd aelodaeth Clwb Ffermwyr Gogledd Sir Benfro.
Mae Elinor yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser hamdden yn rhedeg ar ôl ei dau blentyn bach, ac mae hefyd yn mwynhau pobi, darllen a cherdded.

Arweinydd Strategol Rhagoriaeth Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu
Anna yw’r Arweinydd Strategol Cynhwysiant, Amrywiaeth a Rhagoriaeth Lywodraethol ac mae’n credu’n gryf y dylai pawb gael y cyfle i fwynhau ein Tirweddau arbennig, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i roi amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd ein teulu Tirweddau – fel bod unrhyw un o wirfoddolwyr, ymwelwyr neu weithwyr ein Tirweddau yn cael profiad diogel a chroesawgar ac yr un mor gadarnhaol.
Cefndir cyfreithiol a pholisi sydd gan Anna gyda phrofiad cynhwysfawr mewn gwaith llywodraeth leol ac ymgysylltiad cymunedol ar lawr gwlad Sir Benfro, ar ôl gweithio o fewn y trydydd sector a’r maes cyngor tref a chymuned, gyda sylw penodol ar fentrau cynaliadwy ac ymgysylltu â’n cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Bu’n gweithio fel aelod Bwrdd Cynghori i gwmni teithio a thwristiaeth byd-eang yn cynghori ar gynhwysiant a chynaliadwyedd ac mae’n hynod frwd dros gysylltu pobl â diwylliant, natur a thirweddau Cymru.

Rheolwr Rhaglen Adfer Natur
Mae Lawrence yn rheoli’r rhaglen Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig: Ffermio Bro, yn gweithio ar draws Tirweddau Dynodedig i alluogi ffermwyr a thirfeddianwyr i sicrhau canlyniadau gwell i natur, ymwelwyr, a chymunedau lleol.
Mae Lawrence wedi gweithio â Plantlife a Bumblebee Conservation Trust, lle gweithiodd i gynnal prosiectau cadwraeth ar-y-ddaear, ledled Cymru. Ymysg y rhain oedd prosiect Glaswelltiroedd Gwydn Plantlife a rhaglen flaenllaw Cymru i achub rhywogaethau, Natur am Byth.
Cyn mentro ar yrfa mewn cadwraeth, treuliodd 10 mlynedd mewn nifer o rolau arwain prosiectau a rheoli, yn cynghori sefydliadau byd-eang mawr ar ystod o broblemau, gan gynnwys y rheiny sy’n berthnasol i’r amgylchedd, cymdeithas a llywodraeth. Astudiodd Lawrence Fathemateg yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Ffiseg Ddamcaniaethol fel cymhwyster ôl-raddedig yn Kings College London.

Ymgynghorydd Adfer Byd Natur
Fel Ymgynghorydd Adfer Byd Natur, bydd Sara’n cefnogi Tirweddau Dynodedig Cymru i roi camau gweithredu ystyrlon ar waith tuag at nod bioamrywiaeth byd-eang 30 x 30. A hithau’n eiriolwr angerddol dros fyd natur, mae’n gyffrous ei bod yn dychwelyd i’w gwreiddiau wrth weithio gyda Thirweddau Dynodedig.
Dechreuodd Sara ei gyrfa fel swyddog prosiect AHNE Pen Llŷn cyn rheoli Cronfa Datblygu Cynaliadwyedd CAE ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’n siaradwr Cymraeg sydd â thros 20 mlynedd o brofiad yn y sector amgylcheddol Cymru, yn darparu cyllid a chefnogaeth datblygu drwy’r Cynllun Amgylchedd Cymru, Llais y Goedwig a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol. Yn fwy diweddar, arweiniodd y rhaglen Llythrennedd Eco Nabod Natur a chreodd hyfforddiant bioamrywiaeth arbennig, e-ddysgu a gweithdai yn Cynnal Cymru.
Mae Sara bron â chwblhau ei MSc IEMA-achredig mewn Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes ym Mhrifysgol Bangor, ac gyda unrhyw amser sbâr, bydd yn nofio neu’n crwydro’r mynyddoedd ac arfordir hardd gogledd Cymru.
