Landscapes Wales

Awyr Dywyll Cymru

Mae Tirweddau Dynodedig Cymru yn gweithio gyda’i gilydd ar brosiect Awyr Dywyll ar gyfer Cymru gyfan.

Gan arwain ar ran wyth Tirwedd Ddynodedig Cymru, sef Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, Tirweddau Cenedlaethol Ynys Môn, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy, bydd Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rheoli’r prosiect Awyr Dywyll cenedlaethol.

Mae gan bob Tirwedd Ddynodedig uchelgeisiau o ran sicrhau awyr dywyll, ac mae’r holl dirweddau wedi cyrraedd gwahanol gamau gyda’u gwaith eu hunain yn lleol i wella eu hawyr dywyll. Un elfen gyffredin a ganfuwyd ar draws yr holl Dirweddau Dynodedig yw gwaith cyfalaf y gellir ei wneud i wella awyr y nos. Trwy gydweithio, mae’r prosiect yn gobeithio cael effaith gadarnhaol ar y tirweddau gwarchodedig.

Mae Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael cyllid grant trwy gyfrwng rhaglen ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu cynlluniau goleuo a phrosiectau ôl-osod ar draws yr wyth Tirwedd Ddynodedig. Nod y prosiect yw lleihau llygredd golau yn yr ardaloedd hyn a lleihau’r effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth, ar yr hinsawdd ac ar iechyd y cyhoedd, yn ogystal â diogelu’r Awyr Dywyll.

Mae llygredd golau yn broblem gynyddol ledled y byd. Yn wir, gwelwyd cynnydd o hyd at 400% mewn llygredd golau yn ystod y 25 mlynedd diwethaf.

Dim ond yn ddiweddar y dechreuwyd cydnabod y gwir effaith ar fioamrywiaeth. Trwy leihau llygredd golau mewn ardaloedd dynodedig, bydd y prosiect yn gwella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd trwy adfer tirwedd naturiol y nos.

Mae llygredd golau yn un o’r prif elfennau sy’n ysgogi’r dirywiad mewn pryfed, yn arbennig pryfed adeiniog a lindys. Mae’n amharu ar gylch bywyd llu o rywogaethau ar y tir ac yn y môr. Trwy adfer tywyllwch naturiol, bydd modd gwella cadernid yr ecosystem a hybu adferiad bioamrywiaeth. A thrwy edrych ar hyn ar raddfa’r dirwedd, gall y prosiect wella coridorau’r nos yn sylweddol.

Mae goleuadau Awyr Dywyll yn isel o ran ynni a charbon. Byddant yn arwain at leihau allyriadau carbon ym mhob ardal ddynodedig. Hefyd, bydd rhaglenni ôl-osod goleuadau yn lleihau faint o ynni a ddefnyddir yn gyffredinol yn yr ardaloedd.

 “Gyda’i gilydd, mae’r Parciau Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o lygredd golau a’r modd y gall effeithio nid yn unig ar ein gallu i weld y sêr, ond hefyd ar ein bywyd gwyllt a’n hiechyd. Byddem wrth ein bodd pe mai modd ichi ymuno â ni ar ein siwrnai o amgylch tirweddau gwarchodedig Cymru i ddysgu rhagor am y gwaith a wneir i ddiogelu ein Hawyr Dywyll ac i weld beth allwch chi ei wneud i helpu.”

 

Oeddech chi’n gwybod?

“Dim ond 2% o boblogaeth y DU sy’n profi awyr wirioneddol dywyll”

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Awyr Dywyll y rhaglen ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’, cysylltwch â Gwenno Jones, Swyddog Prosiect – gwenno.jones@denbighshire.gov.uk

 

Newyddion a Digwyddiadau Awyr Dywyll

Taflu Golau ar Awyr Dywyll Cymru: Buddugoliaeth Fawr i Gadwraeth Tirweddau

Mae Gweithgor Awyr Dywyll Cymru wedi ennill Gwobr y Llywydd am y Cynllun Tirwedd Gorau’r Flwyddyn gan y Sefydliad Tirwedd am eu cyhoeddiad arloesol, “Cynllunio ar gyfer Awyr Dywyll – Canllaw Arferion Da.”  Darllen mwy.

 

Cliciwch yma i weld pa ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru