
Yn 2025/26 (ei flwyddyn gyntaf) ariannodd y cynllun 84 o brosiectau ar draws 200 o ffermydd, gan blannu 83,000 o goed a chreu neu adfer 43km o wrychoedd. Mae cynefinoedd pwysig fel coetiroedd hynafol, ffridd, a choridorau glannau afonydd – a rhywogaethau eiconig, gan gynnwys y gylfinir, y wiber, y pathew a’r dyfrgi bellach wedi’u gwarchod yn well a hynny oherwydd ymrwymiad ffermwyr a’r timau Ffermio Bro sy’n gweithio ochr yn ochr â nhw.
‘Mae ein Parciau Cenedlathol a’n Tireweddau Cenedlaethol yn dirweddau byw a gweithredol sydd wedi’u cynnal dros genedlaethau drwy ffermio, diwylliant a chymuned. Mae gwarchod a gwella’r lleoedd hyn yn dibynnu ar weithio mewn partneriaeth â’r bobl sy’n eu hadnabod orau. Mae Ffermio Bro yn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r dull hwnnw, gan ddod â ffermwyr, cymunedau ac arbenigedd lleol ynghyd i gyflawni prosiectau uchelgeisiol dan arweiniad lleol sydd ag effaith genedlaethol.’
Mae Ffermio Bro yn cael ei reoli’n lleol gan y Tirweddau Dynodedig. Dylai ffermwyr a thirfeddianwyr ymgeisio’n uniongyrchol i gyrff Tirweddau Dynodedig, sydd wedi gosod y blaenoriaethau lleol ar gyfer y cynllun, a dyfarnu cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu anghenion lleol. Nid oes angen i ffermwyr wneud cais drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) am grantiau Ffermio Bro.
Mae gan bob un o’r Tirweddau gynghorwyr Ffermio Bro dynodedig, arbenigol sydd yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i ddatblygu ceisiadau a chefnogi ymgeiswyr drwy’r broses. Cliciwch yma i weld manylion cyswllt y cynghorwyr.
Mae Ffermio Bro yn rhan o Haen Gydweithredol y CFfC, ac mae wedi’i integreiddio â darpariaeth ehangach y CFfC.
Gan adlewyrchu’r galw uchel gan ffermwyr, mae’r cynllun wedi cael dyraniad cyllid llawer uwch ar gyfer 2026 – 2028 gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ehangu’r ddarpariaeth, i gefnogi prosiectau tirwedd ar raddfa fwy ar draws llawer mwy o ffermydd – megis gwaith mawr ar y cyd i wella ansawdd dŵr ar draws dalgylchoedd afonydd cyfan.
Dros 2026-28, bydd Ffermio Bro yn cael dros £6.5m, gyda £2.72m y flwyddyn mewn cyllid cyfalaf ochr yn ochr â dyraniad refeniw sylweddol. Bydd y cyllid refeniw hwn yn galluogi Tirweddau Dynodedig i recriwtio staff ychwanegol, ymgymryd ag arolygon ecolegol hanfodol, cyflwyno hyfforddiant a chynnig cymorth cynghorol i ffermwyr.
Mae Ffermio Bro yn gynllun cydweithredol, ac rydym yn disgwyl y bydd bron pob prosiect a ariennir yn bartneriaeth rhwng nifer o ffermydd. Mae cynghorwyr lleol wrth law i helpu i greu a meithrin y cydweithrediadau hyn.
Er ein bod yn canolbwyntio’n bennaf ar natur, byddwn hefyd yn ariannu prosiectau sy’n gwella hawliau tramwy, yn ogystal â rhai sydd o fudd i nodweddion archaeolegol a henebion cofrestredig.
Nid oes terfynau amser cenedlaethol ar gyfer ymgeisio dan Ffermio Bro, ond efallai y bydd pob Parc Cenedlaethol neu Dirwedd Genedlaethol yn dewis gosod terfynau amser lleol. Cysylltwch â’ch cynghorydd Ffermio Bro i gael rhagor o wybodaeth.
Eisiau gwneud cais am gyllid Ffermio Bro? Cysylltwch â’ch Tirwedd Ddynodedig leol yn uniongyrchol. Cliciwch yma i weld manylion cyswllt cynghorydd Ffermio Bro eich Tirwedd Ddynodedig leol chi.
