Rydym wrth ein bodd o fod yn bartner gyda’r RNIB ar ‘Hiraeth – Golwg Gwahanol ar Gymru’ – prosiect 3 blynedd a ariennir gan Gymuned y Loteri Genedlaethol – i gyflwyno ffyrdd newydd o feddwl am fynediad a lles cynhwysol yn ein tirweddau dynodedig yng Nghymru.
Y nod yw gwneud Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru, yn ogystal ag ardaloedd gwledig eraill y wlad, yn hygyrch i ymwelwyr a thrigolion dall ac sydd â golwg rhannol er mwyn sicrhau eu bod yn wirioneddol gynhwysol.
Ei nod hefyd am sicrhau bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac yn ymwneud â galwedigaethau traddodiadol fel ffermio yn ymwybodol o bwysigrwydd gofalu am eu golwg a sut i gael mynediad at gefnogaeth pe bai angen.
Mae Hiraeth – Golwg Gwahanol ar Gymru yn cynrychioli partneriaeth sylweddol o sefydliadau sy’n dod at ei gilydd i ffurfio un traws-sefydliadol.
