Dewiswch gyfuniad o Dirweddau i gael golwg ar brosiectau
Mae rhaglen buddsoddiad cyfalaf Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig Cymru yn parhau i sicrhau cyfraniad at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Lywodraethu; i gynllunio’n fwy strategol a chyflawni rhaglenni tymor hwy gyda phartneriaethau cryfach.
O fewn y rhaglen mae pedair prif thema, sy’n gysylltiedig â’r dibenion statudol a chyfrifoldebau allweddol Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a’r AHNE a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru:
Hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer byd natur – gan gynnwys prosiectau sy’n gwella cysylltedd a chydnerthedd ecosystemau mewn ardaloedd dynodedig, gan ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur i liniaru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Cyflymu datgarboneiddio – drwy ddatgarboneiddio gweithgarwch ac asedau tuag at nod di-garbon net. Gweithredu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y gymuned i alluogi datgarboneiddio yn lleol gan gynnwys gosod mesurau dal ynni adnewyddadwy priodol, a chynlluniau dal a storio carbon yn y dirwedd.
Cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd – galluogi cyrff tirweddau dynodedig i gyflawni canlyniadau a gwelliannau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol neu economaidd ar gyfer eu cymunedau.
Darparu twristiaeth gynaliadwy – lliniaru effeithiau negyddol gordwristiaeth, drwy uwchraddio cyfleusterau a seilwaith ymwelwyr lle mae blaenoriaethau a sensitifrwydd lleol yn cefnogi hyn drwy ddulliau amgylcheddol sensitif, gwydn a pharhaol. Mae’r ymyriadau hyn yn gweithio tuag at helpu tirweddau i adfer ac addasu i batrymau twristiaeth newidiol yn ystod ac ar ôl Covid-19; tra’n gwella a diogelu asedau diwylliannol a threftadaeth gwerthfawr.
Dewiswch bwnc i gael golwg ar brosiectau yn ôl thema