Cynhelir Wythnos Awyr Dywyll Cymru, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, rhwng 9 a 18 Chwefror 2024.
Gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru ac ar-lein, mae’r wythnos yn fenter ar y cyd gan bob un o’n wyth tirwedd dynodedig, sef y pum Tirwedd Cenedlaethol: Ynys Môn, Pen Llŷn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Gŵyr, a Dyffryn Gwy ynghyd â thri Pharc Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.
Mae’r Tirweddau Dynodedig yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o lygredd golau a sut mae hyn yn effeithio nid yn unig ar ein golygfa o’r sêr, ond hefyd ar ein bywyd gwyllt a’n hiechyd.
Bydd yr wythnos o ddigwyddiadau yn rhannu mwy am rôl hollbwysig awyr dywyll mewn bioamrywiaeth, iechyd dynol, cadwraeth ynni, cadwraeth treftadaeth ac, wrth gwrs, seryddiaeth. Bydd yr wythnos yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir ar y safle ac ar-lein ar draws yr wyth lleoliad, sy’n golygu y dylai fod rhywbeth ar gael i bawb ymuno ag ef.
Mae dull ar y cyd o wella ein Hawyr Dywyll wedi ei gefnogi gan y Gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (Cronfa SLSP).
Mae’r gronfa SLSP yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws wyth o Dirweddau Dynodedig Cymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hybu bioamrywiaeth ac adfer byd natur, cyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.
