Negeseuon allweddol:
- Mae Tirweddau Dynodedig yn hanfodol er mwyn cyflawni adferiad byd natur yng Nghymru. Ond maent angen eu hatgyfnerthu’n barhaus.
- Gall Cymru fod yn arweinydd wrth arddangos sut y gall Tirweddau Dynodedig gyflawni adferiad byd natur mewn ffordd sy’n gynhwysol, yn fesuradwy ac yn gredadwy.
- Mae cydweithredu’n allweddol. Mae Tirweddau Dynodedig yn llefydd sy’n bwysig i nifer o bobl. Dylai ffermwyr, coedwigwyr, cymunedau lleol, rhai sy’n defnyddio dŵr, cyrff cyhoeddus a chyrff anllywodraethol i gyd fod yn gweithio gyda’i gilydd gyda chyfrifoldeb a rennir.
Mae ein polisi’n gofyn:
- Dim ond ardaloedd gyda chynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer adfer byd natur ddylai gael eu hystyried ar gyfer y targed 30×30
- Rhaid i adferiad byd natur ddod yn flaenoriaeth ar gyfer parciau cenedlaethol a thirweddau cenedlaethol a’u mewnosod yn rhan o bob gwaith cynllunio, cyflawni a monitro Tirweddau Dynodedig.
- Ni fydd adferiad byd natur yn llwyddiannus heb ddarparu adnoddau priodol i ddarparu’r maint cywir o fonitro amgylcheddol sydd ei angen. Mae angen cynnydd mewn sgiliau a gwybodaeth ar draws y rhwydwaith presennol.
- Rhaid i gynlluniau rheoli yn y dyfodol gael eu datblygu a’u cyflawni’n gynhwysol, gydag ymgynghori ac ymgysylltu dilys gyda’r rhai sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Thirweddau Dynodedig.
Mae adroddiad newydd gan Gymdeithas Ecolegol Prydain yn galw am gefnogaeth gryfach, arweinyddiaeth fwy eglur a mwy o gydweithrediad er mwyn datgloi potensial llawn tirweddau Cymru a amddiffynnir.
O fryniau Bannau Brycheiniog, arfordir dramatig Sir Benfro a’r coetir ac afon Dyffryn Gwy, mae Tirweddau Dynodedig yn ganolog i ddarparu adferiad byd natur yng Nghymru. Ond er mwyn cyflawni adferiad byd natur a sicrhau bod Cymru’n bodloni ei thargedau 30X30, rhaid i amddiffyniadau gael eu hatgyfnerthu meddai ecolegwyr mewn adroddiad annibynnol newydd sydd wedi’i chynhyrchu gan Gymdeithas Ecolegol Prydain.
Mae adfer byd natur yn flaenoriaeth
Dim ond pum mlynedd sy’n weddill er mwyn i Gymru fodloni targedau y cytunwyd yn rhyngwladol er mwyn rhoi diwedd ar ddirywiad bioamrywiaeth a’i wyrdroi ac amddiffyn 30% o dir a’r môr erbyn 2030. Ond mae’r cynnydd yn araf. Canfu Adroddiad Cynnydd 30X30 y DU gan Gyswllt Byd Natur a Chefn Gwlad mai dim ond 2% o dir Cymru sydd wedi’i amddiffyn yn effeithiol ar gyfer byd natur.
Mae’r diffyg cadw momentwm ar hyn o bryd wedi’i nodi gan y Senedd yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd ac Isadeiledd (CCEI).
Er mwyn osgoi’r argyfwng cynyddol ym myd natur yng Nghymru, mae’r adroddiad yn annog gwneud adferiad byd natur yn flaenoriaeth i gynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer ardaloedd dynodedig. Mae cyrff rheoli Tirweddau Dynodedig hefyd angen mwyn o adnoddau er mwyn goresgyn y bwlch presennol o ran sgiliau a chapasiti, yn arbennig felly o ran dadansoddi data, GIS a monitro ecolegol sy’n rhwystro cynnydd o ran nodau adfer byd natur.
Mae Tirweddau Dynodedig yn cynnwys Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol fel ei gilydd ac ar hyn o bryd maent yn gorchuddio 25% o dir Cymru. Ond mae’r tirweddau hyn yn gorfod cyflawni llawer ar gyfer gwahanol bobl sydd â blaenoriaethau gwahanol. Yn fwy na hyn, mae cyrff rheoli Tirweddau Dynodedig yn sefydliadau tynn, y mae gofyn iddynt gyflawni hyn gydag adnoddau prin.
Cydweithrediad a chyfrifoldeb a rennir
Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod Tirweddau Dynodedig yn ofodau sy’n cael eu llywodraethu gan bartneriaethau o wahanol grwpiau o bobl sydd i gyd â diddordeb ynddynt.
“All Tirweddau Dynodedig ddim darparu adferiad byd natur ar eu pen eu hunain.” meddai Howard Davies, Cynghorwr Amgylcheddol Annibynnol ac awdur arweiniol ar y cyd yr adroddiad. “Dyw eu cynlluniau ond yn cael traweffaith gwirioneddol pan maent yn cael eu llunio a’u perchnogi gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn dibynnu ar y llefydd hyn. Mae cydweithrediad felly yn hanfodol – er mwyn cysylltu penderfyniadau ynghylch defnydd o’r tir gyda phrofiad lleol, er mwyn sicrhau bod bob llais yn cael ei glywed, ac er mwyn cydbwyso anghenion amrywiol a dyheadau sydd, gyda’i gilydd, yn diffinio’r tirweddau hyn.”
Tra bo cyrff rheoli Tirweddau Dynodedig yn gosod cynlluniau rheoli, ychydig iawn o’r tir maent yn ei berchen, sy’n golygu bod yn rhaid i benderfyniadau a gweithredoedd fod yn gydweithredol.
Meddai Ruth Lovell, o Tirweddau Cymru a chyd-awdur arweiniol yr adroddiad, “Mae’r cyfraniad a’r adnoddau hanfodol mae Tirweddau Cymru yn eu cynnig yn cael eu gwneud drwy arbenigedd a gwybodaeth staff sy’n gweithio’n lleol ac sy’n deall eu tirweddau, a dyma beth maen nhw’n ei ddod i’r cydweithrediad. Nid ydym yn berchen ar ddarn o dir, felly mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud bob amser mewn partneriaeth ac mae’n gwbl amhrisiadwy.”
Mae gan Gymru gyfle i gyflawni
Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw o fod yn arwain y ffordd wrth ddangos sut y gall Tirweddau Dynodedig gyflawni adferiad byd natur. Yn ogystal â’r dyletswyddau sydd ar gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae rhan o’r cyfle hwn yn deillio o ddaearyddiaeth.
“Mae Cymru yn ddigon bach fel bod modd gweithredu mewn ffordd sy’n gysylltiedig, felly gallwn wneud rhywbeth fel rhwydwaith na fydden ni’n gallu ei wneud yn rhywle arall. Gall strategaethau cenedlaethol ar gyfer adferiad byd natur yn ein Tirweddau Dynodedig gael eu rhoi ar waith mewn ffordd realistig ar draws y wlad.” Eglurodd Howard.
Ychwanegodd Ruth: “Hoffwn i weld Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn dangos arweinyddiaeth a bod yn ddiamwys ynghylch y rôl eglur sydd gan Tirweddau Cymru o fewn adferiad byd natur yng Nghymru.”
“Os ydyn ni’n llwyddo i gael hyn yn iawn, bydd yna ddyfodol lle bydd Tirweddau Dynodedig Cymru yn cyflawni ar gyfer byd natur, lle bydd cymunedau lleol yn teimlo’n rhan ohono ac y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael budd o lesiant estynedig, a’n tirweddau’n gallu gwrthsefyll heriau’r dyfodol.”
