Landscapes Wales
Tirweddau Dynodedig Cymru yn ymgynnull ar gyfer eu seminar gyntaf wyneb yn wyneb.

Tirweddau Dynodedig Cymru yn ymgynnull ar gyfer eu seminar gyntaf wyneb yn wyneb.

Roedd Tirweddau Dynodedig Cymru wedi ymgasglu yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Gŵyr yn ystod mis Mawrth i drafod eu rôl hollbwysig yn yr argyfyngau byd natur a’r newid yn yr hinsawdd.

Wedi’i dynodi yn 1956 am ei harfordir calchfaen clasurol ac amrywiaeth ei chynefinoedd naturiol, Gŵyr oedd yr AHNE gyntaf i’w dynodi yn y DU. Bellach mae’n rhan o’r teulu o bump AHNE a 3 Parc Cenedlaethol yng Nghymru, sef Tirweddau Cymru Landscapes Wales.

Cynhaliwyd seminar Tirweddau Cymru ar safle Lawr i’r Ddaear, Bryn Gwyn Bach. Yn y seminar bu’r cynrychiolwyr yn edrych yn fanylach ar archwiliad dwfn bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru ac yn gofyn cwestiynau hollbwysig am rôl y Tirweddau Dynodedig a’r modd y gallant gyfrannu at y targed 30 erbyn 30, sef ymrwymiad i ddiogelu 30% o dir a môr erbyn 2030.

Dywedodd Cadeirydd Tirweddau Cymru, Emyr Williams Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri: “Dyma’r tro cyntaf i ni i gyd gyfarfod yn bersonol fel Partneriaeth ac mae’n gyfle gwych i ni ddatblygu ymhellach ein gweledigaeth o ddatgloi potensial y Tirweddau Dynodedig i gyflawni mwy dros yr hinsawdd, dros natur a thros y bobl; bod yn esiampl dda wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur; lle mae dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl yn sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i gael panel o siaradwyr i ymuno â ni: Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Anita Kerwin-Nye, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Ymgysylltu a Masnachol Cymdeithas Hosteli Ieuenctid, ac Emma Douglas, Swyddog Datblygu Rhanbarthol De Cymru PONT. Mae’r tair yn dod â’u safbwyntiau unigryw i’r cwestiynau hollbwysig am rôl y Tirweddau Dynodedig a’r modd y gallwn gyfrannu at yr argyfwng natur.”

Meddai’r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, “Ers sefydlu Tirweddau Cymru yn 2020 mae wedi datblygu i fod yn bartner gwerthfawr iawn i Lywodraeth Cymru, ac roeddwn yn falch o fod yn rhan o’u seminar cyntaf yn canolbwyntio ar yr argyfwng natur.

“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Mae cael Tirweddau Cymru yn bartner, a phawb oedd yn gallu rhannu profiad drwy’r seminar, yn gaffaeliad gwerthfawr wrth gyflawni’r ymateb hwn.”

Mae Tirweddau Cymru yn bartneriaeth o’r pump Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE): Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy; a’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol: APC Bannau Brycheiniog, APC Eryri ac APC Arfordir Penfro.

Roedd mynychwyr o dirweddau Cymru, y trydydd sector a’r byd academaidd, wedi ymuno â’r cynrychiolwyr o’r pump AHNE a’r tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru.