Landscapes Wales
Tirweddau Cysylltiedig, Dyfodol Cyfunol yn dathlu cysylltiad, dysgu a chydweithio ar draws Cymru

Tirweddau Cysylltiedig, Dyfodol Cyfunol yn dathlu cysylltiad, dysgu a chydweithio ar draws Cymru

Daeth digwyddiad Tirweddau Cysylltiedig, Dyfodol Cyfunol Tirweddau Cymru â phobl ynghyd o bob cwr o Gymru i rannu syniadau, cryfhau cysylltiadau ac ystyried sut gall Tirweddau Dynodedig barhau i fod yn berthnasol, gwerthfawr ac ystyrlon am genedlaethau i ddod.

Dros ddau ddiwrnod pwrpasol a chreadigol, cymerodd gynrychiolwyr ran mewn trafodaethau panel, dysgu ymarferol a gweithdai a oedd yn canolbwyntio ar gysylltiad, perthyn a chydweithio. Bu’r sgyrsiau’n ystyried rôl tirweddau yn y dyfodol yng Nghymru gyfoes, gwerth cymdeithasol ac effaith Tirweddau Dynodedig, cysylltiadau cymunedol gyda natur a lle, a sut gall mewnwelediad cyffredin gael ei droi’n gamau gweithredu ymarferol. Roedd y Seminar hefyd yn cynnwys dangosiad blasu o ‘Who Gives a F*ck About Polar Bears?’ ac yna sesiwn holi ac ateb gyda’r gwneuthurwr ffilmiau sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, Gavin Porter. Mae ei waith yn ystyried perthnasoedd cymunedau gwahanol gyda’r newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd ehangu cyfranogiad mewn sgyrsiau hinsawdd.

Creodd y rhaglen le ar gyfer myfyrio yn ogystal â chyfranogiad. Roedd y cyfraniadau’n amrywio o sesiwn lawn arbenigol ar berthyn, gwerth a chysylltiad i sesiynau ymarferol ar deithiau cerdded cynhwysol, dulliau seiliedig ar ffydd o ymgysylltu â’r gymuned ac ymatebion i danau gwyllt yng Nghymru. Clywodd cynrychiolwyr hefyd fewnwelediad cynnar i ymchwil ar werth cymdeithasol Tirweddau Dynodedig a buont yn ystyried pwrpas, llywodraethu a’r cyfleoedd sydd i ddod.

Dywedodd Tegryn Jones, Cadeirydd Tirweddau Cymru:

“Hoffem ddiolch yn ddiffuant i bob siaradwr, panelwr, arweinydd gweithdy, hwylusydd, trefnwr a phartner a roddodd eu hamser, eu gwybodaeth a’u hegni i’r digwyddiad. Hoffem hefyd ddiolch i’r cynrychiolwyr am gyfrannu mor agored, gan rannu profiadau a chreu amgylchedd ar gyfer dysgu a chyfnewid.”

Dangosodd y digwyddiad werth dod â gwahanol safbwyntiau at ei gilydd o gwmpas uchelgais cyffredin ar gyfer tirweddau Cymru a’r cymunedau sy’n gysylltiedig â nhw. Mae’r perthnasoedd a ffurfiwyd a’r syniadau a rannwyd yn darparu sylfaen gref ar gyfer cysylltiadau newydd, partneriaethau yn y dyfodol a chydweithio parhaus ar draws sectorau a lleoedd.

Wrth i Dirweddau Dynodedig edrych tua’r dyfodol, y ffocws fydd cynnal y momentwm: parhau â’r sgwrs, datblygu cyfleoedd ymarferol i gydweithio a sicrhau bod cysylltiad, perthyn a chydweithio yn parhau i fod wrth wraidd sut mae tirweddau Cymru yn cael eu gwerthfawrogi a’u llunio ar gyfer y dyfodol.