O dan gynllun Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy mae AHNE Llŷn, a’r 4 AHNE arall yng Nghymru, wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru tuag at brosiectau amgylcheddol. Mae’r grant yn benodol ar gyfer cefnogi prosiectau sy’n ymwneud â dad-garboneiddio, twristiaeth cynaliadwy, adfer natur a chefnogi cymunedau/ adferiad gwyrdd. Yn dilyn cael canllawiau ar gyfer y Gronfa fe gyflwynwyd cais am nifer o brosiectau yn ardal AHNE Llŷn ar gyfer y blynyddoedd 2022-25. Y prosiectau y bu’r Uned AHNE yn gweithio arnynt yn ystod 2022-3 oedd:
Cylchdaith Gyrn Goch
Roedd y gylchdaith hon ar gau oherwydd fod y bont dros afon Hen wedi pydru ac yn amhosibl ei chroesi. Prifffocws y prosiectfelly oedd gosod pont newydd dros yr afon er mwyn ail-agor y gylchdaith a chreu mynediad i goedwig gerllaw a thir mynediad Gyrn Goch. Gwnaed gwelliannau eraill i’r daith hefyd trwy gyfnewid camfa am giât ac ail-wynebu rhan o’r llwybr. Cylchdaith eithaf byr yw hon ond mae’n darparu cyfle i gerdded drwy amryw o dirweddau yn cynnwys coedwig a thir heb ei wella efo amryw o blanhigion gwyllt.
Tir Comin
Prosiect cyffrous arall gan yr Uned yw asesu a gwella tiroedd comin Rhos Botwnnog, Foel Gron Mynytho, a Horeb/Mynytho. Yn y flwyddyn ariannol 2022-23 fe wnaed arolygon ecolegol o’r tiroedd comin dan sylw. Yn y blynyddoedd nesaf byddwn yn gweithredu mesurau i adfer/gwella cyflwr y tiroedd (e.e. gwella cynefinoedd, gwaredu rhywogaethau ymledol), gwella rheolaeth, lleihau risgiau tân ac ati. Mae’r prosiect hefyd yn anelu at wella mynediad a dehongliad i’r tiroedd yma.
Terfynau Traddodiadol
Prosiect ar y cyd gyda ardaloedd dynodedig eraill gogledd Cymru yw hwn. Ei bwrpas yw cynnal ac adfer terfynau traddodiadol – waliau cerrig, cloddiau a gwrychoedd. Yn ogystal â bod yn nodweddion diddorol ar y tirlun mae’r terfynau hyn yn gynefinoedd bywyd gwyllt pwysig. Fel rhan o’r prosiect bu Uned AHNE Llŷn yn cydweithio gyda Parc Cenedlaethol Eryri i gynnig grantiau i gynnal ac adfer terfynau traddodiadol yn ardal Madryn, Llŷn.
Yr Awyr Dywyll
Eto prosiect ar y cyd gyda thirluniau dynodedig eraill oedd hwn. Eisoes mae cryn waith wedi ei wneud i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd yr awyr dywyll trwy Bartneriaeth Nos. Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar hynny ac yn cynnwys penodi ymgynghorwyr i wneud arolygol o oleuadau mewn ardaloedd ac adnabod cyfleon i osod goleuadau newydd, llai niweidiol i’r awyr dywyll. Yn dilyn hynny bydd y prosiect yn symud ymlaen i wireddu’r gwelliannau er budd yr awyr dywyll a’r amgylchedd yn gyffredinol.
Y Ganolfan, Llithfaen
Mae’r Ganolfan yn adeilad pwysig mhentref Llithfaen a’r ardal o amgylch. Hyd yn ddiweddar roedd cyfarfodydd a gweithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal yma ac roedd dau fwrdd snwcer oedd yn cael eu defnyddio’n gyson. Yn ystod y cyfnod clo datblygodd problem efo pydredd sych yn Y Ganolfan a daeth yn amlwg fod angen gwelliannau sylweddol cyn y gellid ail-agor yr adeilad. Ym mlwyddyn 2022-23 bu i arian cyfalaf gyfrannu at arolwg cyflwr trylwyr o’r Ganolfan a llunio Cynllun Busnes ar gyfer y dyfodol.
Fan drydan Warden yr AHNE
Fel rhan o’r ymdrech i ddad garboneiddio gwasanaethau’r AHNE a Chyngor Gwynedd fe ddefnyddiwyd cyfran o’r grant cyfalaf i brynu fan drydan ar gyfer Warden yr AHNE. Roedd hyn yn golygu cael gwared ar yr hen fan ddisl a lleihau ôl troed carbon y gwasanaeth. Defnyddir pwyntiau sydd yn swyddfeydd Ffordd y Cob, Pwllheli i wefru’r fan ac yn achlysurol rhai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Gyda diolch i’r YG !).
Darllenwch fwy am waith yn AHNE Llŷn yn rhifyn diweddaraf eu cylchlythyr Llygad Llŷn.
