Am y tro cyntaf erioed, bu i Tirweddau Cymru, ynghyd â’n partneriaid Tirweddau Dynodedig, gynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth er mwyn dathlu tirweddau anhygoel Cymru.
Bu i safon y cynigion wneud gwaith y beirniaid yn heriol iawn, ond yn y pen draw, roedd enillydd amlwg.
Llongyfarchiadau mawr i Lee Sutton. Bydd y llun buddugol o Lyn Dywarchen nawr yn cael ei gynnwys ar glawr ein calendr ar gyfer 2024, ac ar dudalen Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o fewn y calendr.

Mae Lee hefyd wedi derbyn taleb ffotograffiaeth gwerth £100 ar gyfer siop ddewisol.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. Gallwch weld casgliad o enillwyr o bob tirwedd, isod.
Bydd Calendr Tirweddau Cymru 2024 ar gael ar ddiwedd y flwyddyn, felly gwiriwch eto ar gyfer argaeledd.
- David Griffiths AHNE Ynys Môn / Anglesey AONB
- Geoffrey Foulkes APCBB / BBNPA
- Jac Williams AHNE BCDD / CRDV AONB
- Keith Moseley AHNE Dyffryn Gwy / Wye Valley AONB
- Chris O’Brien APCAP / PCNPA
- Neva Wilson AHNE Gŵyr / Gower AONB
- Dafydd Hughes AHNE Llŷn AONB







