Gyda rhyw 19 miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn â’n tirweddau yng Nghymru, mae’r bartneriaeth o’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, sef Tirweddau Cymru, wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt yn y tirweddau hyn.
Mae gan dirweddau rôl bwysig o ran galluogi pobl i deimlo’n rhan o’r amgylchedd a bod yn angerddol am yr amgylchedd naturiol a diwylliannol, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol y maent yn ei gael ar iechyd a lles. Mae gan bartneriaeth Tirweddau Cymru hefyd rôl hanfodol wrth estyn allan y tu hwnt i gynulleidfaoedd traddodiadol fel y gall pob sector o gymdeithas brofi hyn yn ein tirweddau dynodedig.
Fel rhan o’r ymrwymiad hwn a dathlu amrywiaeth ar draws ein cymunedau yng Nghymru, ymunodd Tirweddau Cymru â gorymdaith Pride Cymru ddydd Sadwrn 17 Mehefin i anfon neges o gefnogaeth a dathlu’r cyfraniadau a wneir gan bobl LHDTC+ mewn cymdeithas. Mae hyn yn arbennig o amserol o ystyried Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
Wrth siarad am Dirweddau Cymru yn rhan o orymdaith Pride, dywedodd Anna Jones, Arweinydd Strategol Rhagoriaeth Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu: “Mae hwn yn gyfle gwych i ni fel teulu o dirweddau ddangos ein cefnogaeth i’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru, gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt yn ein tirweddau – ac yn wir dangos ein cefnogaeth i’n staff, gwirfoddolwyr ac aelodau presennol ac o bosibl y dyfodol, sydd hefyd yn rhan o’r gymuned hon”.
Mae Partneriaeth Tirweddau Cymru yn gweithio i greu cyfleoedd i bobl LHDTC+ ledled Cymru gysylltu a chefnogi ei gilydd a’u galluogi i deimlo bod ganddynt oll ran yn eu tirweddau dynodedig.
