Mae Tirweddau Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol 2025–26, sy’n tynnu sylw at flwyddyn o gydweithio, arloesi a gweithredu ar draws tirweddau dynodedig Cymru.
Mae’r adroddiad yn dathlu cyflawniadau ar y cyd Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru, gan arddangos y cynnydd a wnaed ym meysydd adfer natur, gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, ymgysylltu â chymunedau a rheoli tir yn gynaliadwy. Mae hefyd yn adlewyrchu cryfder y bartneriaeth rhwng sefydliadau sy’n cydweithio i warchod a gwella rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru er budd pobl a natur.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r adroddiad yn ailddatgan ymrwymiad Tirweddau Cymru i sicrhau bod tirweddau dynodedig Cymru yn parhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r Adroddiad Blynyddol llawn ar gael i’w lawr lwytho o wefan Tirweddau Cymru.
