Landscapes Wales
Tirweddau Cymru yn creu Cysylltiadau Awyr Agored

Tirweddau Cymru yn creu Cysylltiadau Awyr Agored

Neuadd Trafford Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid yng Nghaer oedd lleoliad yr ail ddigwyddiad Cysylltiad Awyr Agored a gynhaliwyd ar 1-2 Mawrth 2024 – cynulliad wyneb yn wyneb anhygoel a oedd wedi’i anelu’n benodol at bobl sy’n chwalu rhwystrau rhag gwneud pethau yn yr awyr agored. Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn dathlu gwaith gwych Dinasyddion Awyr Agored, sef cymuned ymarfer sy’n cynnig adnoddau, sgiliau a chyllid, gan rymuso grwpiau cymunedol i barhau â’u gwaith yn ogystal â helpu sefydliadau mwy i ddal ati i gyflawni eu nod, sef creu awyr agored mwy cynhwysol.

Cefnogir y digwyddiad gan Natural England a Sport England ac fe’i cynhelir gan Gymdeithas yr Hostelau Ieuenctid a’r rhwydwaith cymunedol nid-er-elw All the Elements, sy’n crynhoi pethau’n berffaith trwy ddisgrifio’r digwyddiad fel “cyfle i wneuthurwyr newid ddod ynghyd, rhannu syniadau, meithrin sgiliau a chael eu hysbrydoli ar gyfer y pethau a ddaw nesaf.”

Pleser i TCLW oedd cael gwahoddiad, fel partner cefnogi yng Nghymru, i gynrychioli’r gwaith a wneir gan ein Tirweddau Dynodedig i fod yn ‘Dirweddau i Bawb’, ac anrhydedd oedd cael sedd ar y panel olaf i sôn am gydweithredu ar draws y sector – y manteision a’r peryglon.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys nifer o sesiynau a gâi eu rhedeg gan hwyluswyr arbenigol, ond a oedd hefyd yn cynnig cyfle i’r mynychwyr gysylltu gyda’r naill a’r llall a dysgu gan y naill a’r llall. Llwyddodd TCLW i wneud llawer o gysylltiadau gwych gyda rhai sefydliadau anhygoel ac edrychwn ymlaen at greu’r cysylltiadau hyn gyda’n timau Tirweddau. Un o’r uchafbwyntiau oedd gwylio’r Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn Wrecsam, a oedd wedi cael gwahoddiad i fynychu’r digwyddiad, yn uno â’r Cwmni Buddiannau Cymunedol Surfability UK yn Abertawe i wneud cynlluniau i fynd â grwpiau o bencadlys y Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn Abertawe i gael profiad o arfordir Gŵyr!

Dymuna TCLW ddiolch o galon i’r tîm Dinasyddion Awyr Agored ac i Gymdeithas yr Hostelau Ieuenctid – rydym yn edrych ymlaen yn barod at y digwyddiad Creu Cysylltiad yn 2025!

Darllen mwy yma.