Datgarboneiddio Tirweddau Dynodedig Cymru; gweithio gyda’n cymunedau i gyflawni sero net.
Ymunwch â ni wrth inni archwilio rôl Tirweddau Dynodedig yn yr argyfwng hinsawdd.
Byddwn yn edrych yn fanylach ar Ddatgarboneiddio Tirweddau Dynodedig Cymru, yn dilyn y gwaith a wnaed gan Small World Consulting ar gyfer yr wyth tirwedd ddynodedig yng Nghymru.
Bydd y Seminar yn cynnig y canlynol:
- Cyfle i glywed rhagor am lwybrau tuag at sero net, ynghyd â chyfle i drafod y llwybrau hynny.
- Cyfle i ddatblygu ffyrdd ymarferol a fydd yn galluogi tirweddau dynodedig i gyflawni mwy dros yr hinsawdd, dros natur a thros bobl.
- Cyfle i drafod â chydweithwyr sut y gallwn fynd i’r afael â hyn a sicrhau y byddwn yn gwneud pethau’n agored gyda’n cymunedau, gan wneud yn siŵr na chaiff neb ei adael ar ôl.
- Cyfle i rwydweithio gyda chysylltiadau o’r byd academaidd, Sefydliadau Anllywodraethol a chydweithwyr o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru.
