
Mae Tirweddau Cymru yn falch iawn o longyfarch Tegryn Jones ar gael ei anrhydeddu gyda Wisg Las y Gorsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Tegryn, a ddaeth yn ddiweddar yn Gadeirydd Tirweddau Cymru ochr yn ochr â’i rôl fel Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi’i gydnabod am ei gyfraniad rhagorol i Gymru drwy ei arweinyddiaeth ym meysydd yr amgylchedd, cymuned a’r Gymraeg.
Yn wreiddiol o Llanbedr Pont Steffan ac yn byw yn Sir Benfro bellach, mae Tegryn wedi treulio ei yrfa yn hyrwyddo tirweddau, cymunedau a threftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae ei waith wedi helpu i gryfhau mentrau cenedlaethol ym maes newid hinsawdd, tirweddau gwarchodedig a chynaladwyedd, tra’n hyrwyddo’r Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn barhaus ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae’r anrhydedd yn rhan o gyhoeddiadau Y Wisg Las eleni, sy’n dathlu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd, iaith a diwylliant Cymru. Mae Tegryn yn ymuno â grŵp nodedig o bobl o bob rhan o Gymru sydd wedi’u cydnabod am eu gwasanaeth i gymunedau, bywyd cyhoeddus, addysg, chwaraeon, y celfyddydau a gwirfoddoli.
Fel Cadeirydd Tirweddau Cymru, mae Tegryn yn dod â dealltwriaeth ddofn o’r berthynas hanfodol rhwng tirwedd, iaith a diwylliant yng Nghymru. Mae ei arweinyddiaeth yn adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i sicrhau nad yn unig y caiff tirweddau dynodedig Cymru eu gwarchod ar gyfer natur a hamdden, ond eu bod hefyd yn cael eu dathlu fel tirweddau diwylliannol byw a lunir gan gymunedau, treftadaeth a’r Gymraeg.
Mae’r anrhydedd yn arbennig o briodol wrth edrych ymlaen at ddychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i Sir Benfro yr haf hwn – sir lle mae tirwedd, diwylliant a hunaniaeth yn gwbl gydgysylltiedig, o Fryniau’r Preseli i arfordir y parc cenedlaethol.
Mae pawb yn Tirweddau Cymru yn estyn llongyfarchiadau cynnes i Tegryn ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.
