Mae’r Tirweddau Dynodedig ar hyd a lled Cymru yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i adfer ffiniau caeau traddodiadol fel rhan o raglen a ariennir gan y cynllun Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, ac a arweinir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r ffiniau traddodiadol gan gynnwys waliau carreg sych a gwrychoedd yn rhan annatod o’n tirweddau. Yn ogystal â chyflawni diben ymarferol, mae’r ffiniau hyn hefyd yn bwysig i fywyd gwyllt ac i’r amgylchedd, a gallant hefyd fod yn atal tân gan helpu i atal tanau gwyllt rhag lledaenu ar draws ein tirweddau.
Un o’r tirweddau dynodedig sy’n rhedeg y cynllun ffiniau traddodiadol yw Parc Cenedlaethol Eryri. Dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coetiroedd ac Amaethyddiaeth Eryri:
“Mae hwn yn gynllun gwych fydd o fudd i reolwyr tir ac i’r amgylchedd, yn ogystal â’r economi wledig ehangach drwy greu gwaith i gontractwyr lleol. Bydd y cynllun yn rhedeg am gyfnod o dair blynedd, gyda’r rownd gyntaf o gefnogaeth yn Eryri mor boblogaidd nes bod mwy o geisiadau na lleoedd!”
Bydd y cynlluniau sy’n cael eu cyflawni ar draws Tirweddau Cymru yn cefnogi adfer gwrychoedd a chreu gwrychoedd newydd a phlannu coed mewn gwrychoedd, yn ogystal â datblygu a chefnogi’r sgiliau sydd eu hangen i’w cynnal. Mae ffiniau traddodiadol yn fuddiol o ran dal a storio carbon ac o ran gwella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd. Gallant hefyd helpu i liniaru llifogydd drwy arafu llif y dŵr a chynyddu’r gyfradd ymdreiddio. Mae ffiniau caeau o’r mathau hyn hefyd yn ffynhonnell fwyd i fywyd gwyllt ac yn lloches ym mhob tymor.
Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy yn cefnogi’r rhaglen hon, a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru a Thirweddau Cymru. Mae’r gronfa hon yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer byd natur, cyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.
