Landscapes Wales
Pwy yw Tirweddau Cymru a beth rydym yn ei wneud?

Pwy yw Tirweddau Cymru a beth rydym yn ei wneud?

Os ydych chi erioed wedi meddwl sut mae Cymru’n diogelu ei lleoedd mwyaf annwyl – o’n mynyddoedd garw a’n glannau gwyllt i’n treftadaeth ddiwylliannol a’n cymunedau bywiog – dyma’r man cychwyn perffaith.


Pwy Ydym Ni

Tirweddau Cymru Landscapes Wales (TCLW) yw’r bartneriaeth genedlaethol sy’n cynrychioli wyth Tirwedd Dynodedig Cymru:

  • Y pum Tirwedd Genedlaethol – Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy
  • Y tri Pharc Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri

Gyda’i gilydd, mae’r tirweddau hyn yn cwmpasu rhai o’r lleoedd mwyaf eithriadol yn y DU. Mae TCLW yn dod â’r wyth ynghyd i gydweithio, rhannu arbenigedd, a chyflawni gwaith sydd â dylanwad y tu hwnt i’w ffiniau.


Beth yw Tirweddau Dynodedig?

Lleoedd yw Tirweddau Dynodedig sy’n cael eu diogelu am eu harddwch naturiol, eu bywyd gwyllt a’u treftadaeth ddiwylliannol. Maent yn bwysig yn genedlaethol ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

Mae dau brif fath:

Parciau Cenedlaethol

Mae Parciau Cenedlaethol yn cadw ac yn gwella eu tirweddau tra hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd eu mwynhau, eu deall a’u dysgu.

Tirweddau Cenedlaethol

Mae Tirweddau Cenedlaethol (gynt AHNE) hefyd yn cadw ac yn gwella, ac fe’u hannogir i gefnogi hamdden cyn belled â’i fod yn cyd-fynd ag anghenion lleol megis ffermio, coedwigaeth a bywyd cymunedol.


Ein Gweledigaeth

Mae Tirweddau Cymru Landscapes Wales yn bodoli i ryddhau potensial llawn Tirweddau Dynodedig Cymru.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod y lleoedd hyn yn arwain y ffordd ar:

  • Gweithredu ar y newid hinsawdd ac adfer natur
  • Diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg
  • Datblygiad economaidd teg a gwyrdd
  • Mynediad cynhwysol a phrofiadau amrywiol
  • Cymunedau cryfach, mwy gwydn

Mae ein tirweddau mewn sefyllfa unigryw i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur mewn ffyrdd sy’n codi pobl a lleoedd.


Beth Rydym yn Ei Wneud

Mae TCLW yn darparu arweinyddiaeth strategol a chefnogaeth ymarferol drwy:

Cryfhau Cydweithio

Rydym yn helpu tirweddau Cymru i weithio gyda’i gilydd ar heriau cyffredin fel datgarboneiddio, colli bioamrywiaeth, twristiaeth gynaliadwy a gwydnwch cymunedol.

Cefnogi Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Mae Tirweddau Dynodedig yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni ymrwymiadau cenedlaethol, gan gynnwys:

  • Economi decach, wyrddach
  • Datgarboneiddio ac addasu i’r hinsawdd
  • Mannau awyr agored a diwylliannol cynhwysol, gwrth-hiliol
  • Tyfu’r Gymraeg
  • Sectorau celfyddydau, chwaraeon a thwristiaeth ffyniannus

Tyfu Cyfleoedd Ariannu

Rydym yn cefnogi tirweddau i amrywio ffynonellau ariannu ac i gyflawni buddsoddiadau allweddol megis y rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Llefydd Cynaliadwy (SLSP).

Rhannu Effaith

Rydym yn tynnu sylw at lwyddiannau’r tirweddau ac yn sicrhau bod eu gwaith yn cael ei ddeall a’i ddathlu’n genedlaethol.


Cyfarfod â Wyth Tirwedd Dynodedig Cymru

Crynodeb byr o bob un:

  • Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn – glannau eang, treftadaeth gyfoethog a bywyd gwyllt o safon byd-eang.
  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – tirwedd wedi’i siapio gan hanes, diwylliant a chadwyni mynyddig dramatig.
  • Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – cribau ucheldirol eiconig, caerau Oes Haearn a golygfeydd rhagorol.
  • Parc Cenedlaethol Eryri – copaon garw, dyffrynnoedd dwfn a chynefinoedd o bwys rhyngwladol.
  • Tirwedd Genedlaethol Gŵyr – y dynodiad cyntaf yn y DU, yn enwog am ei draethau, clogwyni a hanes hynafol.
  • Tirwedd Genedlaethol Llŷn – penrhyn unigryw gyda baeau tywodlyd, porthladdoedd bach a hunaniaeth ddiwylliannol gref.
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – arfordir ysblennydd, bywyd gwyllt, ynysoedd a thraddodiadau morwrol.
  • Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy – un o dirweddau iseldir gorau Prydain, gyda ceunentydd coediog serth a bioamrywiaeth gyfoethog.

Pam Mae’n Bwysig

Nid yw Tirweddau Dynodedig Cymru yn diogelu golygfeydd yn unig – maent yn diogelu ein dyfodol.
Dyma’r lleoedd lle mae gweithredu ar y newid hinsawdd yn cwrdd â lles cymunedol, lle mae diwylliant a natur yr un mor werthfawr, a lle mae cydweithio’n helpu Cymru i arwain y ffordd.

Mae Tirweddau Cymru Landscapes Wales yn sicrhau bod y lleoedd gwerthfawr hyn yn parhau i ffynnu – heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I ddarganfod mwy am ein tîm, eu cefndiroedd a’r meysydd maent yn arwain arnynt, cliciwch yma!