Landscapes Wales
Cei Trefor

EIN GWAITH
AC EFFAITH


Tirwedd Cenedlaethol Llŷn

Cei Trefor

Bwriad y prosiect yw gwella ac adnewyddu seilwaith mewn cyrchfan boblogaidd o fewn yr AHNE. Mae traeth a chei Trefor yn safle hanesyddol diddorol gyda chysylltiadau â’r diwydiannau pysgota a chwarela gwenithfaen (ar y mynydd cyfagos). Credwn bod potensial i wella’r safle a’i wneud yn llawer mwy deniadol i’r trigolion lleol ac i’r ymwelwyr. Gallai hyn ddod â manteision amgylcheddol, economaidd a chymunedol i’r ardal.

Mae’r prosiect yn cynnwys y gwaith canlynol: rhoi wyneb newydd ar y maes parcio anffurfiol ger y Cei; rhoi wyneb newydd ar safle’r hen Gei ei hun; peintio’r rheiliau ar y Cei a gosod meinciau newydd; creu llwybr newydd o’r maes parcio i’r traeth; mân welliannau amgylcheddol.