Landscapes Wales
Porth Dysgu Dwyieithog Newydd – TIRLUN

Porth Dysgu Dwyieithog Newydd – TIRLUN

Gofynnwyd i addysgwyr gael cipolwg ar y porth dysgu tirweddau dynodedig dwyieithog newydd a chyffrous.

Mae porth Tirlun yn llawn i’r ymylon o weithgareddau difyr sy’n addas i ddysgwr eu defnyddio yn yr ysgol ac mewn ardaloedd lleol.

Gweithgareddau trawsgwricwlaidd atyniadol: 12 gweithgaredd newydd sbon wedi’u gwreiddio yn y cwricwlwm ac yn cynnwys cyflwyniadau rhyngweithiol. Mae’r gweithgareddau’n drawsgwricwlaidd eu natur ac yn cynnwys ystod o Feysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh).

Gweithgareddau dysgu awyr agored sydd wedi’u gwreiddio yn y cwricwlwm: Model cynhwysol unigryw i sicrhau rhwyddineb defnydd o fewn cwricwlwm ysgol ac i roi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau annatod o fewn y pedwar diben.

Adnoddau parod i’w defnyddio: Nodiadau athrawon manwl, dolenni defnyddiol, a siartiau ehangder, oll wedi’u cynllunio i drawsnewid cwricwlwm dysgu awyr agored eich ysgol. Mae porth Tirlun yn darparu ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu o fewn camau cynnydd 3 a 4.

Gwybodaeth am Dirweddau Dynodedig Cymru: Mapiau a gwybodaeth i egluro Tirweddau Dynodedig Cymru a’u rhinweddau arbennig.

Gweithgareddau wedi’u profi: Mae Tirlun wedi’i ddatblygu a’i gyd-gynhyrchu gydag ysgolion a dysgwyr ledled Cymru.

Mae mwy o weithgareddau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd ar gyfer holl Dirweddau Dynodedig Cymru, i ddarparu cyfleoedd pellach ar gyfer dysgu ac i fynd â dysgwyr o’ch ysgol ac i mewn i’ch ardal leol a Thirweddau Dynodedig Cymru.

Croeso i chi rannu eich profiadau o ddefnyddio’r porth. Os hoffech chi gysylltu, e-bostiwch ni ar
tirwedd@pembrokeshirecoast.org.uk

Gwerthfawrogir unrhyw adborth neu sylwadau yn fawr.

Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy yn cefnogi’r rhaglen hon. Fe’i gweinyddir trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru a Thirweddau Cymru Landscapes Wales.