Landscapes Wales
Natur i Bawb: Dathlu Balchder ym Mhrydferthwch Cymru

Natur i Bawb: Dathlu Balchder ym Mhrydferthwch Cymru

Wrth i’r haf gyrraedd tirweddau Cymru, mae mis Mehefin yn dod â chyfle arbennig i ddathlu Mis Balchder. Yn Tirweddau Cymru, credwn y dylai ein Tirweddau Cenedlaethol a’n Parciau Cenedlaethol fod yn agored, croesawgar, a chynhwysol i bawb, ni waeth pa gefndir, hunaniaeth na’ phrofiad.

Yn ystod mis Balchder, rydym am roi goleuni ar grwpiau LGBTQ+ sy’n archwilio tirweddau Cymru a’r bobl a’r partneriaethau sy’n helpu i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn i natur.

 

Mae Natur i Bawb

Mae tirluniau dynodedig Cymru’n cynnig eiliadau o heddwch, cysylltiad a mwynhad i filoedd o bobl bob blwyddyn. Ond am rhy hir, nid yw pawb bob amser wedi teimlo’n gyfforddus yn y mannau hyn. Mae aelodau cymunedau LGBTQ+ yn aml wedi wynebu rhwystrau, rhai geladwy ac anweladwy, sy’n gallu gwneud i’r awyr agored deimlo’n annymunol neu hyd yn oed yn anniogel.

Mae hynny’n newid.

Diolch i ymroddiad grwpiau cynhwysol, gwirfoddolwyr, ac ymdrechion tymor hir sy’n gweithio ar draws yr wyth Tirwedd Cenedlaethol yng Nghymru, mae’r wlad yn dod yn fwy agored, yn fwy gwahoddgar, a’n fwy cynrychioliadol o’r bobl sy’n galw Cymru yn gartref.

 

Y Grwpiau sy’n Gwneud Gwahaniaeth

Ar draws Cymru, mae cymunedau awyr agored LGBTQ+ bywiog yn helpu i adfer lle, adeiladu cysylltiadau, a dod o hyd i lawenydd ar hyd llwybrau.

Mae gan The Gay Outdoor Club (GOC) dri grŵp gweithgar yn y Gogledd, y De a’r Gorllewin yng Nghymru, sy’n dod â phobl LGBTQ+ a’u ffrindiau ynghyd ar gyfer cerdded a gweithgareddau cymdeithasol eraill yn rheolaidd. O droeon hamddenol ar hyd afonydd i anturiaethau garw ym Mannau Brycheiniog, Eryri a Dyffryn Gwy, mae GOC yn creu gofod ar gyfer cysylltu a pherthyn.

Mae OutdoorLads yn cynnal anturiaethau ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru, gan groesawu dynion hoyw, deurywiol, traws a cwiar i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded, gwersylla, dringo, beicio, a llawer mwy. Mae’r digwyddiadau hyn, sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, yn ymwneud â mwy na ffitrwydd, a chreu cymuned mewn mannau gwyllt sydd wrth eu gwraidd. Mae gweithgareddau diweddar yng Nghymru wedi cynnwys nofio gwyllt, cerdded ar hyd y arfordir ym Mhenfro, ac hyd yn oed gwersylla dros nos mewn mynyddoedd anghysbell.

Mae’r grwpiau hyn a rhai eraill tebyg yn ysbrydoli lleisiau newydd ac yn creu ffordd diogel, croesawgar i’r awyr agored.

 

Pam mae Cynhwysiant yn y Tirweddau yn Bwysig

Yn Tirweddau Cymru, rydym yn gwybod nad yw cynhwysiant yn restr wirio, ond yn ymrwymiad. Dyna pam ein bod yn gweithio ar draws wyth Parc Cenedlaethol a Thirwedd Cenedlaethol Cymru i ymgorffori cyfartaledd a chynrychiolaeth ym mhopeth a wnawn.

O gefnogi grwpiau a digwyddiadau LGBTQ+ lleol i hyfforddiant cynhwysol, ar ben gwella arwyddion a chyfleusterau, rydym wedi ymrwymo i wneud ein tirweddau yn leoedd ble mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu croesawu, a’u gwerthfawrogi.

Fel y dywedodd un aelod o’r tîm yn ddiweddar: “Ni allwch gael gwir amrywiaeth heb gynhwysiant gwirioneddol yn gyntaf.” Mae hynny’n golygu gweithio nid yn unig ar hyd y llwybrau, ond ar y polisïau, partneriaethau a’r gweithgareddau sy’n siapio pwy sy’n teimlo’n gartrefol yma.

 

Balchder, Lle a Phosibilrwydd

A hithau’n Fis Balchder, boed chi allan ar daith gerdded gyda grŵp neu’n mwynhau munud dawel ym myd natur, rydym yn dathlu’r rhyddid i fod yn chi’ch hun, a llawenydd syml treulio amser yn yr awyr agored.

Mae tirweddau Cymru’n agored i bawb. Felly rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen a mwynhewch y lleoedd prydferth hyn yn union fel yr ydych chi.