Fframwaith Polisi ar gyfer Natur, Diwylliant, Cymunedau, a Chenedlaethau’r Dyfodol
Wrth i Etholiad y Senedd 2026 nesáu yng Nghymru, mae Tirweddau Cymru yn galw ar bob plaid wleidyddol i gydnabod rôl hanfodol Tirweddau Dynodedig[i] o ran cyflawni canlyniadau amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd i’r genedl.
Mae Tirweddau Cenedlaethol (a elwid yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gynt) a Pharciau Cenedlaethol Cymru yn gorchuddio 25% o Gymru, ac nid mannau hardd neu fannau ar gyfer hamddena yn unig mohonynt. Maent yn dirweddau hollbwysig sy’n ategu natur, economïau lleol, cyflenwadau dŵr, hunaniaeth ddiwylliannol – yn cynnwys y Gymraeg – a’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd. Yn y ddogfen hon, pennir agenda glir a chydweithredol gogyfer cydweddu polisïau a buddsoddiadau yn y meysydd hanfodol hyn.
Rydym yn cefnogi dull partneriaeth. Fel rhanddeiliaid hollbwysig yn y tirweddau hyn, gyda chyfrifoldeb statudol tuag atynt, rydym yn barod i arwain y gwaith o gyflawni camau sy’n seiliedig ar leoedd ac sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, a ategir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhan fwyaf o dir Tirweddau Dynodedig mewn dwylo preifat, felly caiff popeth a wnawn ei wneud ar y cyd â chyrff rheoli cymunedau lleol, a rheolwyr tir.
[i] Mae Tirweddau Cymru Landscapes Wales yn Bartneriaeth o gyrff rheoli Tirweddau Dynodedig, sy’n cynnwys timau’r pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a elwir bellach yn Dirweddau Cenedlaethol: sef Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy; ac awdurdodau rheoli’r tri Pharc Cenedlaethol: sef Bannau Brycheiniog, Eryri ac Arfordir Penfro; a chaiff gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
