Landscapes Wales
Mae teithio llesol a thrafnidiaeth wedi derbyn cymorth ariannol yn Nyffryn Gwy

Mae teithio llesol a thrafnidiaeth wedi derbyn cymorth ariannol yn Nyffryn Gwy

Mae teithio llesol a thrafnidiaeth wedi derbyn cymorth ariannol yn Nyffryn Gwy

Mae hyrwyddo teithio llesol a thrafnidiaeth mwy cynaliadwy yn AHNE Dyffryn Gwy wedi derbyn nawdd gan y gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy.

Bydd y prosiect hwn yn gweithredu’r rhannau perthnasol o’r astudiaeth Teithio Llesol Pentrefi (AHNE) Dyffryn Gwy a ariannwyd yn 2020 i 21, sy’n cynnwys hyrwyddo dulliau o deithio sy’n llygru llai, megis gwella llwybrau cerdded a beicio, gosod seilwaith, a hyrwyddo bysiau lleol sydd â gwybodaeth ar gael ar y bysiau.

Dywedodd Andrew Blake, Rheolwr AHNE Dyffryn Gwy: “Rydym yn gyffrous iawn i weld gwell seilwaith i ymwelwyr, yn enwedig ar gyfer beicwyr. Bydd y gwelliannau hyn yn golygu mwy o gyfleoedd i fwy o bobl allu beicio, sy’n golygu llai o allyriadau carbon. Dylai hyn yn ei dro arwain at fwy o gyfleoedd i fusnesau ddarparu ar gyfer nifer cynyddol o feicwyr.

“Bydd cerdded a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn cael ei hybu a’i annog fydd yn arwain at fanteision tebyg, ac yn gyffredinol bydd yn help i ymwelwyr fwynhau’r ardal yn fwy fyth, gan gynnwys y cyfle i werthfawrogi’r dreftadaeth a’r diwylliant lleol.”

Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy, a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru a Tirweddau Cymru, yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer byd natur, gan gyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.