
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn dirwedd o harddwch eithriadol – o fynyddoedd creigiog a rhostiroedd heddychlon, i geunentydd llaith gwyrddion yn agor allan i ehangder aberoedd euraidd. Mae’r dirwedd yn frith o olion yr oesoedd a fu – o gestyll, bryngaerau a phontydd hynafol i domenni llechi, mwyngloddiau a rheilffyrdd – oll yn dyst i orffennol lliwgar Eryri ac yn sail i’n treftadaeth ddiwylliannol unigryw. Ond mae mwy i harddwch Eryri na’r hyn sydd ar yr wyneb. Mae harddwch i’r cymunedau byw sy’n gartref a gweithle ers cenedlaethau, lle mae bywiogrwydd yr iaith Gymraeg i’w chlywed ym mhob pentref a thref, ac yn famiaith i’r hen a’r ifanc. Nid yw’n syndod felly, bod Eryri a’i hamrywiaeth gyfoethog o ddiwylliant a thirwedd yn cael ei harddel fel un o un o ardaloedd mwyaf rhyfeddol y byd.
Darllenwch mwy am Barc Eryri yma.