
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae’r hanes cyfoethog yn rhan annatod o’n cymunedau amrywiol a chroesawgar. Mae cestyll a meini hirion, ffyrdd Rhufeinig a thystiolaeth o ddiwydiant ac amaethyddiaeth yn frith o amgylch y 520 milltir sgwâr sy’n ffurfio ein Parc Cenedlaethol ysblennydd. Beth am archwilio’r mynyddoedd a’r rhostiroedd ar droed, mwynhau’r golygfeydd rhyfeddol a gwerthfawrogi’r bywyd gwyllt amrywiol a’r fioamrywiaeth yn ein cefn gwlad. Mae’r haenau yn ein tirwedd yn adrodd yr hanes o sut mae natur a magwraeth wedi effeithio ar y tirlun ar draws Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr. Fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, nid yw llygredd golau yn difetha golygfeydd o’r awyr yn y nos. Rydym yn gyrchfan perffaith i’w archwilio yn ystod y dydd neu’r nos.
Darllenwch fwy am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yma.