
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 yn 2022, ar ôl cael ei ddynodi ar 29 Chwefror 1952. Yn ogystal â bod yr unig Barc yn y DU sy’n bodoli yn bennaf oherwydd ei arfordir, mae pedair rhan i’r Parc, a phob rhan â’i hynodrwydd a’i nodweddion ei hun. Tra mai’r arfordir efallai yw’r prif atyniad, ond yn gefnir i’r glannau mae nodweddion gwych eraill ac er nad oes unman yn y Parc Cenedlaethol mwy na deng milltir o’r môr, mae llawer mwy i’w archwilio nag y meddyliech. Mae gan yr arfordir o safon byd-eang gefndir o fryniau, aberoedd, dyffrynnoedd a choetiroedd sy’n eich galluogi i ddarganfod rhywbeth gwahanol.
Darllenwch fwy am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yma.