
Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr
Dynodwyd AHNE Gŵyr yn 1956 i gydnabod arfordir creigiog trawiadol Gŵyr a’i amgylchedd naturiol rhagorol ac am fod yn un o’r lleoedd olaf yn ardal ddiwydiannol de Cymru i feddu ar harddwch naturiol heb ei ddifetha. Mae golygfeydd godidog ac amrywiol Gŵyr yn amrywio o dwyni brau a morfeydd heli yn y gogledd i glogwyni calchfaen trawiadol ar hyd arfordir y de, a thraethau tywod eang rhyngddynt. Ym mherfedd y penrhyn, mae bryniau Cefn Bryn a Mynydd Rhosili yn edrych dros dirwedd o gaeau bach traddodiadol, cymoedd coediog a thiroedd comin agored. Mae Gŵyr yn denu syrffwyr a phob math o bobl sy’n dwlu ar draethau, ynghyd â cherddwyr, dringwyr a beicwyr. Mae hefyd yn ardal ffermio draddodiadol lle mae ffermydd teuluol yn tyfu amrywiaeth o gnydau a ffrwythau ac yn pori defaid a gwartheg ar y tir comin.
Darllenwch fwy am Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr yma.