Llwyddodd y ffotograffydd, Magnus Huber i gyfleu harddwch bythol a threftadaeth Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yn ei lun buddugol
Mae Tirweddau Cymru yn falch o gyhoeddi fod Magnus Huber wedi’i enwi’n enillydd Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Tirweddau Cymru 2026 am ei lun trawiadol o longddrylliad yr Helvetia ym Mae Rhosili, yn Nhirwedd Genedlaethol Gŵyr.
Mae’r ffotograff yn dangos gweddillion hindreuliedig yr Helvetia yn codi allan o dywod Bae Rhosili, gyda thirwedd anhygoel Penrhyn Gŵyr yn ffrâm i’r cyfan.

Mae llongddrylliad yr Helvetia wedi dod yn un o nodweddion mwyaf poblogaidd arfordir Cymru ymhlith ffotograffwyr. Wedi’i dryllio yn ystod storm ym 1887, mae ei gweddillion yn parhau i ddarparu canolbwynt trawiadol i draeth eang a golygfeydd dramatig Bae Rhosili.
Mae Cystadleuaeth Ffotograffiaeth flynyddol Tirweddau Cymru yn dathlu tirweddau nodedig Cymru a’r cysylltiadau dwfn rhwng pobl, lle a natur. Roedd thema eleni yn gwahodd ffotograffwyr i arddangos y rhinweddau arbennig sy’n gwneud Tirweddau Dynodedig Cymru mor unigryw.
Bydd llun Magnus ar glawr calendr Tirweddau Cymru 2027 a derbyniodd daleb rhodd ffotograffiaeth gwerth £100 ar gyfer ei siop ddewisol hefyd.
