Landscapes Wales
Gweithgareddau antur ym Mharc Gwledig y Morglawdd

Gweithgareddau antur ym Mharc Gwledig y Morglawdd

Gweithgareddau antur ym Mharc Gwledig y Morglawdd

Yn AHNE Ynys Môn mae safle Parc Gwledig y Morglawdd, sy’n borth i Lwybr Arfordir Cymru, wedi derbyn cyllid i ddylunio, creu a gosod maes chwarae antur newydd ynghyd â gwelliannau mynediad i’r safle.

Mae’r prosiect i ddatblygu’r cyfleuster newydd hwn yn AHNE Ynys Môn wedi derbyn cymorth ariannol gan y Gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru a Tirweddau Cymru.

Mae Parc Gwledig y Morglawdd, ger tref Caergybi, yn gyrchfan boblogaidd iawn i’r boblogaeth leol ac i’r ymwelwyr, gan dderbyn 125,000 a mwy o ymweliadau bob blwyddyn. Yn y gorffennol ni fu ardal chwarae antur yn y Parc Gwledig i blant ddysgu, archwilio a herio eu hunain.

Mae agosrwydd tref Caergybi a chymunedau cyfagos, porthladd fferi, terfynfa drenau a Gwibffordd yr A55 yn ei wneud yn lleoliad dymunol i ymweld ag ef ac mae’n un o’r prif byrth i arfordir ehangach a chefn gwlad gogledd Ynys Gybi ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r Parc Gwledig yn ymestyn dros ardal o 40 hectar a mwy ac yn ymgorffori Llwybr Arfordir Cymru, sy’n arwain at bwynt uchaf Ynys Môn sef Mynydd Twr, ac ymhellach ymlaen i Ynys Lawd.

Mae cymaint o fanteision i’w hennill o chwarae yn yr awyr agored ac mae newidiadau ar y safle hwn wedi rhoi rheswm i bobl o’r gymuned leol dreulio mwy o amser yn yr ardal, a theimlo mwy o gysylltiad â’r amgylchedd naturiol.

Hefyd mae caffi yn yr ardal chwarae antur sy’n cael ei redeg fel menter gymdeithasol, yn ogystal â chaban Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru [NWWT], toiledau, digon o le parcio a Chanolfan Wybodaeth gerllaw. Gyda mwy o bobl yn aros yn hirach yn yr AHNE, mae’r busnesau lleol wedi elwa o gael mwy o gwsmeriaid.

Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer byd natur, gan gyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.