Landscapes Wales
Ffermio gyda Natur, er Lles y Dyfodol

Ffermio gyda Natur, er Lles y Dyfodol

Gan Lawrence Harris, Rheolwr Rhaglen Genedlaethol Ffermio Bro

Nid yw amaethyddiaeth sy’n gyfeillgar i natur yn fwy pwysig yn unrhywle na’n Tirweddau Cenedlaethol – y tri Parc Cenedlaethol a’r pum Tirwedd Genedlaethol (AHNE gynt) sy’n cynnwys rhai o’r llefydd mwyaf arbennig yng Nghymru. Yn y tirweddau hyn, mae gan ffermwyr rôl hanfodol i’w chwarae wrth amddiffyn ecosystemau gwerthfawr a bregus, ac yn profi niferoedd uchel o ymwelwyr sy’n rhoi pwysau ar hawliau tramwy, cynefinoedd a seilwaith.

Gan gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru – ar y cyd â’r Tirweddau Dynodedig sy’n cydweithio fel Tirweddau Cymru Landscapes Wales – wedi datblygu cynllun amaeth-amgylcheddol newydd: Ffermio Bro. Bydd y fenter hon yn cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion sy’n fwy cyfeillgar i natur ac yn helpu i oresgyn y rhwystrau o ran buddsoddiad cyfalaf sy’n aml yn rhwystro cynnydd y bwriadau hyn. Rydym yn cydnabod bod llawer o ffermwyr eisiau mabwysiadu arferion sy’n fwy cyfeillgar i natur ac amddiffyn cynefinoedd ar eu tir. Mae’r arferion hyn yn aml yn darparu arbedion hirdymor o ran costau ac yn gwneud ffermydd yn fwy gwydn i dywydd eithafol a llifogydd. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r pwysau ariannol cynyddol sy’n wynebu’r gymuned amaethyddol – a dyma lle gall Ffermio Bro wneud gwahaniaeth.

Bydd cyllid ar gael trwy’r cynllun ar gyfer ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys ffensio, creu coetiroedd dwysedd isel, gwella llwybrau troed, ac adfer mawndiroedd. Bydd prosiectau yn cael eu hannog i ymateb i anghenion lleol, ac nid oes angen iddynt gydymffurfio â manylebau safonol. Croesewir cynigion pwrpasol sy’n mynd i’r afael â heriau lleol penodol.

Mae Ffermio Bro yn rhaglen gydweithredol a gynlluniwyd i wella gwydnwch natur ar raddfa fawr drwy gefnogi gweithgareddau ar draws sawl fferm sy’n cyd-fynd â thema neu nod cyffredin. Gallai prosiectau cydweithredol gymryd sawl ffurf – er enghraifft, gweithio gyda ffermydd ar draws dalgylch un afon i wella ansawdd dŵr.

Bydd gan bob Tirwedd Ddynodedig gynghorydd Ffermio Bro pwrpasol a fydd yn gweithio law yn llaw â ffermwyr i ddatblygu’r prosiectau cydweithredol hyn. Bydd cynghorwyr yn dod â thirfeddianwyr ynghyd, yn hwyluso cydweithio, ac yn cynorthwyo gyda’r gwaith papur i sicrhau llwyddiant ceisiadau.

Nod Ffermio Bro, a fydd yn rhedeg am dair blynedd, yw cyflawni newid parhaol yn ein Parciau Cenedlaethol a’n Tirweddau Cenedlaethol, gan ymgorffori arferion ffermio newydd sy’n gyfeillgar i natur a diogelu bioamrywiaeth yn y lleoedd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae hefyd yn hanfodol bod y diwylliant gwledig ac o ffermio sydd wedi llunio ein Parciau Cenedlaethol a’n Tirweddau Cenedlaethol yn cael ei ddiogelu. Rhaid i adfer natur ddigwydd ar y cyd â ffermwyr – nid rhywbeth sy’n cael ei orfodi arnynt. Dyna pam y bydd ffermwyr yn rhan o’r broses Ffermio Bro o’r cychwyn i’r diwedd – o lunio prosiectau i eistedd ar Baneli Asesu Lleol a fydd yn adolygu ceisiadau.

Mae ffermio sy’n gyfeillgar i natur yn cyflawni cymaint – mae’n cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy, yn amddiffyn ein diwylliant gwledig ac yn creu ecosystemau sy’n caniatáu i natur adfer a ffynnu. Bydd Ffermio Bro yn darparu’r cyllid a’r gefnogaeth sydd eu hangen i helpu i gyflawni’r dyfodol gwell hwn – i ffermwyr a’r amgylchedd naturiol.

 

Mae Ffermio Bro bellach ar agor i geisiadau. Dylai ffermwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid Ffermio Bro wneud cais yn uniongyrchol i’w Tirwedd Ddynodedig leol, a fydd yn gallu helpu gyda phob cam o’r broses.