Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau cyllid tair blynedd ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy’ gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu cynnal nifer o brosiectau amgylcheddol.
Bydd y prosiectau yn cael eu harwain gan Dîm Ardal o Harddwch Naturiol (AHNE) y Cyngor ar ôl iddynt lwyddo i sicrhau’r grant o £575,000 a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru a Tirweddau Cymru Landscapes Wales.
Un prosiect amgylcheddol y bydd Tîm Cefn Gwlad ac AHNE Ynys Môn yn ei redeg fydd prosiect ehangu rhostir. Nod y prosiect fydd ehangu ac adfer rhostiroedd iseldir o amgylch Ynys Môn.
Cydnabyddir rhostir iseldir fel rhywogaeth blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU gan ei fod yn brin ac yn gynefin sydd o dan fygythiad. Mae tua 12.5% o rostir iseldir Cymru i’w weld yn Ynys Môn – sy’n amlygu pwysigrwydd y prosiect hwn.
Dros y tair blynedd nesaf bydd £125,000 o’r arian grant yn cael ei ddefnyddio i gynnal archwiliad o gyflwr rhostir iseldir Ynys Môn, cyn creu strategaeth ddiweddar er mwyn cefnogi perchnogion a rheolwyr tir i wella a chynyddu’r amrywiaeth o rostir iseldir sydd ar eu tir.
Un o’r camau cyntaf er mwyn helpu i adfer rhostir yw tynnu planhigion prysg megis rhedyn sydd wedi coloneiddio ffiniau’r rhostir.
Yn ddiweddar, mae contractwr symud coed gan ddefnyddio ceffylau (Kevin Taylor) wedi ei gyflogi i wneud gwaith rowlio rhedyn ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi sy’n cael ei reoli gan y Cyngor.
Bydd rowlio rhedyn yn gwasgu’r rhedyn ifanc sy’n egino yn y gwanwyn ac yn gwanio’r planhigyn drwy ddifrodi’r goes. Mae’r dull hwn yn cael ei ffafrio, yn hytrach na thorri, gan y gallai hynny achosi’r planhigyn i dyfu yn y dyfodol a gwaethygu’r broblem.
Fel arfer, byddai rholer yn cael ei dynnu gan feic modur pedair olwyn neu dractor. Fodd bynnag, er mwyn lleihau ôl-troed carbon y gwaith, gwnaed y gwaith hwn gan geffyl.
Eglurodd Joseff Davies, Warden Cymunedol AHNE, “Mae hwn yn brosiect hynod gyffrous sydd â’r potensial i ddatblygu tu hwnt i’r 3 blynedd. Mae rhostir iseldir yn dirlun pwysig o fewn AHNE Ynys Môn ac rydym yn edrych ymlaen at gael gwella cyflwr ac amrywiaeth y cynefin hanfodol hwn.”
