Landscapes Wales
Dyffryn Dyfrdwy yn croesawu ceidwaid ifanc Ewropeaidd

Dyffryn Dyfrdwy yn croesawu ceidwaid ifanc Ewropeaidd

Mae pobl ifanc o bob cwr o Ewrop ar fin profi prosiectau diogelu cefn gwlad leol.

Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi ymuno â Thirweddau Cymru Landscapes Wales (TCLW)1 ac Europarc i gynnal gwersyll wythnos o hyd i Geidwaid Ifanc Rhyngwladol yn Nyffryn Dyfrdwy.

Yn dechrau ar 20 Gorffennaf bydd y gwersyll Ceidwaid Ifanc Rhyngwladol yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc wneud ffrindiau gydag unigolion ifanc ledled Ewrop sy’n rhannu’r un brwdfrydedd am natur ac yn gweithredu mewn ardaloedd wedi’u gwarchod yn lleol.

Yn y digwyddiad bydd gwirfoddolwyr ifanc yn dod i Ddyffryn Dyfrdwy o wledydd ar draws Ewrop, yn cynnwys Sweden, Estonia, Latfia, Yr Eidal, Denmarc, Yr Almaen archwilio thema ‘Tirweddau ar gyfer y Dyfodol’ a’r Iseldiroedd i gyfnewid syniadau, dathlu amrywiaeth a dysgu am Dirweddau a Ddiogelir ar draws Ewrop.

Bydd y grŵp yn aros yng Nghanolfan Awyr Agored Bryntysilio ac yn treulio’r wythnos yn ymweld ag yn helpu gyda phrosiectau cadwraeth ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a hefyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Rydym ar ben ein digon o gael cynnal y digwyddiad rhyngwladol hwn ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r holl bobl ifanc i Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddysgu am y gwaith pwysig mae ein ceidwaid yn ei wneud i ddiogelu ein cefn gwlad a natur.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn brofiad gwych i ddysgu o’n tirwedd ac i fynd â’r wybodaeth hynny adref gyda nhw.”

Cadirydd Andrew Blake, Tirweddau Cymru Landscapes Wales, dywedodd:

“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i gynnal y digwyddiad hwn. Mae hwn yn gyfle gwych i’n teulu tirwedd Cymreig ddod at ei gilydd, arddangos ein diwylliant a’n treftadaeth Gymreig hyfryd, a gobeithio ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn nyfodol ein tirweddau trwy ein gwaith hinsawdd a natur pwysig”.