Landscapes Wales
Dull newydd o reoli’r Llwybr Pedair Rhaeadr yn awr ac ar gyfer y dyfodol

Dull newydd o reoli’r Llwybr Pedair Rhaeadr yn awr ac ar gyfer y dyfodol

Dull newydd o reoli’r Llwybr Pedair Rhaeadr yn awr ac ar gyfer y dyfodol

Mae dull newydd o reoli rhai o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd yn ein tirweddau dynodedig wedi derbyn cymorth ariannol gan Tirweddau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Llwybr Pedair Rhaeadr yn lleoliad hynod boblogaidd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae tynnu lluniau lleoliadau trawiadol i’w lledaenu ar instagram megis y rhaeadrau ysblennydd hyn mewn ceunentydd coediog dwfn, yn dod yn fwyfwy atyniadol ac yn arwain at lefelau uchel o ymwelwyr, yn enwedig mewn golygfannau, llefydd naturiol i gael seibiant a mannau lle mae pobl yn gwneud penderfyniadau ynghylch ble i fynd nesaf. Mae hyn wedi golygu bod y llwybrau presennol yn cael eu herydu ac yn agored i ddifrod.

Gwnaed sawl ymgais i fynd i’r afael â’r mater hwn, rhai ohonynt yn fwy llwyddiannus na’i gilydd. Yna yn ystod haf 2020 ar ôl y cyfyngiadau ar symud a’r niferoedd hyd yn oed yn uwch o ymwelwyr, daeth yn amlwg bellach bod angen dulliau gwahanol o reoli.

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr APCBB: “Rydym wrth ein bodd i gael y cymorth ariannol hwn i’r prosiect a’n gobaith yn awr yw y bydd y dulliau newydd hyn yn ein helpu nid yn unig i glustnodi’r meysydd y mae angen edrych arnynt ond hefyd i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gytuno ar y dull gorau o adfer ardaloedd o lystyfiant a phriddoedd sydd wedi’u difrodi, eu herydu a’u gadael yn agored i ddifrod.

“Mae hyn hefyd yn hynod o amserol wrth i ni barhau i weld niferoedd uchel o bobl yn ymweld ac yn mwynhau’r hyn sydd gennym i’w gynnig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Y gobaith yw y bydd y manteision i ymwelwyr yn cynnwys:

  • Llai o debygolrwydd o ddifrod anfwriadol i’r SoDdGA/ACA drwy wella’r profiad dan draed a lleihau ‘ymledu’.
  • Bydd cael troedle cadarn yn newid ffocws cerddwyr o edrych i lawr i osgoi gwreiddiau coed a phyllau i edrych i fyny ac o gwmpas ac ymgysylltu â natur arbennig yr ardal.
  • Cymorth ar gyfer mwy o ddysgu ac addysg.
  • Darparu ar gyfer y golygfannau a’r profiadau a’r mannau aros am seibiant y mae pobl yn eu dewis yn naturiol ar eu llwybrau.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid gan Gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru a Tirweddau Cymru.

Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer byd natur, gan gyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.