Landscapes Wales

Dewch i gwrdd ag Anna Jones, Arweinydd Strategol Rhagoriaeth Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu

Allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich rôl newydd?
Yn gryno, bydd fy rôl fel Arweinydd Strategol Rhagoriaeth Cynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu yn fy ngweld yn gweithio mewn partneriaeth ar draws Tirweddau Dynodedig Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo amrywiaeth yn fewnol ymhlith y staff, y gwirfoddolwyr a’r Aelodau a hefyd yn allanol ymhlith ein cymunedau ac ymwelwyr, gyda ffocws penodol ar fentrau allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf yn y rôl hon?
Roeddwn yn ymwybodol o rywfaint o’r gwaith gwych sydd eisoes wedi’i wneud gan Dirweddau Dynodedig Cymru, yn enwedig ym maes hygyrchedd, ond mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig cael gwybod am yr holl waith caled a’r dyheadau sy’n byrlymu mewn meysydd eraill, megis ehangu ein cynigion i ymgysylltu â’r ieuenctid – gobeithio y bydd y rôl yn fy ngweld yn creu dolen gyswllt rhwng y timau a gwneud y gorau o’r adnoddau a’r dysgu a rennir. Yn hollbwysig, fel cyrff cymharol fach, rwyf hefyd am ehangu rhai meysydd ar draws sector yr amgylchedd yn fwy cyffredinol, megis gwella amrywiaeth yn ein cyfleoedd recriwtio a rhwydweithio.

Beth amdanoch chi, allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich cefndir?
Mae gennyf gefndir cyfreithiol a pholisi a phrofiad helaeth o ymgysylltu â’r gymuned ar lawr gwlad yn Sir Benfro a gwaith llywodraeth leol, ar ôl gweithio o fewn y trydydd sector a’r maes cynghorau tref a chymuned, yn canolbwyntio’n benodol ar fentrau cynaliadwy ac ymgysylltu â’n cymunedau nas gwasanaethir yn ddigonol. Rwyf wedi gweithio fel aelod o’r Bwrdd Ymgynghorol i gwmni teithio a thwristiaeth byd-eang yn cynghori ar gynhwysiant a chynaliadwyedd, ac mae gennyf angerdd gwirioneddol dros gysylltu pobl â diwylliant Cymru, yr amgylchedd, a’n tirweddau. Rwy’n mwynhau torchi llewys, felly rhowch wybod i mi am unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau y barnwch y byddai’n wych i mi fod yn rhan ohonynt!

Sut all pobl gysylltu â chi?
Byddwn hefyd wrth fy modd yn clywed am unrhyw syniadau sydd gennych i wella ymwybyddiaeth a hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth yn ein Tirweddau Dynodedig! Felly anfonwch e-bost ataf i annaj@pembrokeshirecoast.org.uk i rannu eich awgrymiadau.