Landscapes Wales
Cystadleuaeth ffotograffiaeth Tirweddau Dynodedig

Cystadleuaeth ffotograffiaeth Tirweddau Dynodedig

Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth, a hynny ar y cyd â’n partneriaid Tirweddau Dynodedig. Mae’r gystadleuaeth yn ddathliad o’r tirweddau syfrdanol sydd gennym yma yng Nghymru ac rydym am i chi gael eich ysbrydoli i fynd allan a’u crisialu ar gamera.

Y categori yw Strafagansa Tirweddau, felly anfonwch eich lluniau gorau atom o’r tirweddau!

Ymhlith y gwobrau mae’r cyfle i gael cynnwys eich llun yn ein Calendr Tirweddau, sy’n cael ei ddosbarthu ar draws pob Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, y Parciau Cenedlaethol, ac yn ehangach, a hefyd taleb ffotograffiaeth gwerth £100.

 

Anfonwch eich llun(iau) drwy’r e-bost at: contact@landscapeswales.org.uk gyda’ch enw llawn a’r fan lle tynnwyd y llun, ac ym mha AHNE neu Barc Cenedlaethol yng Nghymru.

Dyddiad Cau – Dydd Gwener, 1af Medi, 2023

Mae’r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Mae’r telerau a’r amodau llawn i’w gweld isod, a fyddech gystal â’u darllen os gwelwch yn dda.