Enillodd llun Tirweddau Genedlaethol Ynys Môn y brif wobr yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Tirweddau Cymru.
Llun o Eglwys Cwyfan ar Dirweddau Genedlaethol Ynys Môn enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Tirweddau Cymru 2024.
Llongyfarchiadau i Don Cardy, a’i lun sydd wedi dal prydferthwch tirwedd Ynys Môn i’r dim. Defnyddir y llun buddugol ar glawr calendr 2025 Tirweddau Cymru Landscape Wales, ac fel prif lun Tirweddau Cenedlaethol Ynys Môn.
- Eglwys Sant Cwyfan / St Cwyfan’s Church, Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn / Isle of Anglesey National Landscape. Don Cardy.
Mae Don hefyd wedi derbyn taleb ffotograffiaeth gwerth £100 ar gyfer siop o’i ddewis ef.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. Gellir gweld oriel o’r ymgeiswyr o’r lluniau o’r tirweddau isod.
Bydd Calendr Tirweddau Cymru 2025 ar gael ar ddiwedd y flwyddyn, felly cadwch olwg er mwyn cael eich calendr chi.
- Harbwr Dinbych-y-pysgod / Tenby harbour, PCAP / PCNPA. Stephen Metcalfe
- Yr Wyddfa, PC Eryri NP. Matt Watkins
- Broad Pool Cilibion, Tirwedd Genedlaethol Gŵyr /Gower National Landscape. Magnus Huber
- Porth Ysgaden, Tirwedd Genedlaethol Llŷn National Landscape. Greta Hughes





