Mae ein cystadleuaeth ffotograffiaeth yn ôl!
Eleni, does dim thema, dim ond dal yr hyn sy’n eich ysbrydoli fwyaf ym Mharciau Cenedlaethol neu Dirweddau Cenedlaethol Cymru.
O fynyddoedd ac arfordiroedd i afonydd, bywyd gwyllt ac eiliadau tawel ym myd natur, rydym eisiau gweld Cymru drwy eich llygaid chi.
Mae’r gwobrau’n cynnwys: Eich llun yn cael ei gynnwys yng Nghalendr Tirweddau Cymru 2027 a thocyn rhodd ffotograffiaeth.
Anfonwch eich llun(iau) drwy e-bost at: contact@landscapeswales.org.uk gyda’ch enw llawn a ble tynnwyd y llun, ac ym mha Dirwedd Genedlaethol neu Barc Cenedlaethol Cymru.
Dyddiad cau: 1 Awst
Am ddim i gymryd rhan, ac yn agored i bawb!
Telerau ac amodau cystadleuaeth Ffotograffiaeth Tirweddau Cymru
1. Nid oes tâl am gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon ac mae’n agored i bawb.
2. Gall pob person gyflwyno tri llun.
3. Manyleb llun –
· Maint lleiaf – A4 297 x 210mm
· 300 dpi
· Landscape
· Pixel size – 3508 x 2480 px
4. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae’r ymgeisydd yn nodi ei fod yn cytuno i ymrwymo i’r telerau a’r amodau hyn.
5. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau na ddaw i law am ba reswm bynnag.
6. Yn eich cyflwyniad mae’n rhaid i chi gynnwys lle mae’ch llun wedi’i dynnu.
7. Rhaid i’r lluniau a gyflwynir fod yn lluniau mewn Tirwedd Cenedlaethol yng Nghymru: Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Llŷn, Gŵyr neu Ddyffryn Gwy; neu mewn Parc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu Parc Cenedlaethol Eryri.
8. Rydym yn neilltuo’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd. Bydd yr hyrwyddwr yn rhoi gwybod i’r ymgeiswyr cyn gynted â phosibl am unrhyw newidiadau i’r gystadleuaeth.
9. Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw Awst 1af 2026 ac ar ôl y dyddiad hwn ni chaniateir unrhyw geisiadau pellach i’r gystadleuaeth.
10. Mae’r wobr fel a ganlyn: Bydd enillydd cyffredinol yn cael y cyfle i gynnwys ei lun ar glawr Calendr Tirweddau Cymru 2027 ac yn derbyn tocyn anrheg ffotograffiaeth.
11. Bydd yr enillwyr yn cael y cyfle i’w llun gael ei gynnwys yng Nghalendr Tirweddau Cymru 2027.
12. Dyma fydd y gwobrau, ac ni chynigir unrhyw arian parod na dewisiadau eraill. Nid yw’r gwobrau i’w trosglwyddo i eraill.
13. Bydd panel o bartneriaid Tirweddau Cymru yn dewis yr enillwyr a bydd eu penderfyniad yn derfynol.
14. Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i bob oed.
15. Mae’r enillydd yn cytuno i ddefnyddio ei enw a’i lun mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd, yn ogystal â’u cais. Bydd unrhyw ddata personol sy’n ymwneud â’r enillydd neu unrhyw ymgeisydd arall yn cael ei ddefnyddio yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, ac felly ni fydd yn cael ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd yr ymgeisydd ymlaen llaw.
16. Rhaid i’r enillydd/enillwyr gydnabod eu buddugoliaeth cyn pen 7 diwrnod o gael gwybod eu bod wedi ennill, neu gellir ailddyrannu’r wobr i’r enillydd nesaf.
17. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a manylion cyswllt a roddwch yn cael eu defnyddio dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth.
18. Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un sy’n uniongyrchol gysylltiedig â threfnu’r gystadleuaeth hon.
