Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Tirweddau Dynodedig Cymru yn gartref i’r 20fed Gwersyll Ceidwaid Rhyngwladol EUROPARC yn 2024.
Gan weithio mewn partneriaeth o dan yr enw Tirweddau Cymru, bydd Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn croesawu deg tîm rhyngwladol ym mis Gorffennaf eleni ar y thema Tirweddau ar gyfer y dyfodol.
Rhaglen addysg anffurfiol i blant ac arddegwyr oddeutu’r oedran 12 – 18 sy’n byw o fewn neu’n gyfagos i Ardaloedd Gwarchodedig yw’r rhaglen Ceidwaid Ifanc EUROPARC. Gall y rhaglen fod dan arweiniad ceidwaid parc, arbenigwyr addysgol neu wirfoddolwyr parc, yn dibynnu ar y cyd-destun lleol.
Bydd tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn croesawu 10 tîm rhyngwladol, bob un ag un Mentor Ceidwaid Ifanc a thri Cheidwad Ifanc rhwng 14 – 17 mlwydd oed, ac yn rhannu tirwedd, diwylliant a hanes arbennig Cymru gyda hwy!
Gwnewch gais nawr! Mae modd cofrestru tan 25 Mawrth a mynegi diddordeb mewn mynychu yw’r cam cyntaf. Darganfod mwy yma.
