Landscapes Wales
Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Cymru – Datgloi potensial Tirweddau Dynodedig

Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Cymru – Datgloi potensial Tirweddau Dynodedig

Blog gan Howard Davies, Cadeirydd Annibynnol Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth – Y Grŵp Arbenigwyr Tirweddau Dynodedig

Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan SCNP

Cefndir

Yn 2022, roedd y byd wedi dod i gytundeb ynghylch cynllun a oedd yn nodi trobwynt – sef Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal – o ran atal a gwrthdroi colledion bioamrywiaeth erbyn 2030. Prif destun sylw’r cynllun oedd y targed i warchod neu gadw o leiaf 30 y cant o dir a môr y blaned erbyn 2030 (30×30).

Yn yr un flwyddyn, bu’r Gweinidog Newid Hinsawdd yng Nghymru ar y pryd, sef Julie James AS, yn gweithio gyda grŵp o arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol i ymgymryd ag Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth, i ddatblygu set o gamau gweithredu y gellid mynd i’r afael â hwy yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcan byd-eang hwn.

Cydnabyddir mai Ardaloedd Gwarchodedig yw conglfaen cadwraeth bioamrywiaeth. Mae Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (AHNE gynt) yn ffurfio rhan o rwydwaith y Deyrnas Unedig o ardaloedd gwarchodedig, ac felly maent yn allweddol ar gyfer cyflawni’r targed 30×30. Yng Nghymru, mae gan yr ardaloedd hyn rôl hanfodol i’w chwarae mewn ymateb i’r ymrwymiad byd-eang hwn.

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i 30×30, ffurfiodd dri grŵp arbenigol i ystyried tri maes diddordeb – data a thystiolaeth, Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar Sail Ardal (OECMs), a’r modd gorau i ‘ddatgloi potensial’ Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel Tirweddau Dynodedig) o ran cyflawni mwy ar gyfer byd natur. Yn ystod haf 2023, fe’m penodwyd yn gadeirydd annibynnol yr olaf o’r rhain.

 

Y Drafodaeth

Yng nghyd-destun gwaith rheoli amgylcheddol, mae gan y term ‘tirwedd’ wahanol ystyron, a gellir ei ddefnyddio mewn sawl cyswllt. Mae diffyg cysondeb weithiau o ran y modd y caiff ei ddefnyddio, sydd yn aml yn ennyn amheuaeth. Cymhlethwyd hyn ymhellach gan yr uchelgais i warchod a chyfoethogi harddwch naturiol, ynghyd ag i hyn fod y sail i’r diben o reoli Tirweddau Dynodedig.

Er yn ffisegol ac yn synwyradwy, o ran y gellir eu canfod trwy’r synhwyrau, mae tirweddau’n ganlyniad i brosesau, sydd wedi’u hysgogi, eu diffinio a’u deall, o safbwynt diwylliannol, gan bobl. Maent yn deillio o gydwybod gymdeithasol, a gall gwahanol grwpiau cymdeithasol feddiannu’r un lle mewn gwahanol ffyrdd. Mae tirweddau dynodedig yn fannau sy’n destun amheuaeth, y mae arfer pŵer drostynt yn creu tiriogaethau, materol a symbolaidd. Mae tirwedd yn gyfrwng mynegiant diwylliannol sy’n gallu atgyfnerthu gwerthoedd ac ymdeimlad o hunaniaeth. I’r un graddau, gall anesmwytho, dieithrio ac ynysu. Felly mae gan y rheiny sydd wedi’u hawdurdodi i’w rheoli gyfrifoldeb mawr.

Mae tirwedd yn fan cyfarfod rhwng byd natur a diwylliant, daeareg a daearyddiaeth, y gorffennol a’r presennol, a rhwng gwerthoedd diriaethol ac anniriaethol. Felly mae ei mynegi yn nhermau polisi yn gymhleth, ond, yn y bôn, trwy gamau blaengar, mae’n llawn potensial.

Wrth weithio i fynd i’r afael ag argyfyngau dirfodol y newid yn yr hinsawdd a cholledion ym myd natur, gwelir yn glir y cysylltiadau rhwng polisïau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae ‘Tirwedd’, o ran ei bod yn fan cyswllt, nid yn unig yn fodd o wrthweithio’r dull rhydwythol o reoli’r amgylchedd sydd wedi gwaethygu’r problemau a wynebir gennym heddiw, ond gallai weithredu fel y prif fecanwaith i alluogi pobl i ymgysylltu â’r byd naturiol. Y cefndir hwn o gyd-ddealltwriaeth oedd yn sail i flwyddyn o drafodaethau manwl, a phroses o flaenoriaethu a meithrin consensws.

Roedd ein hymchwiliad yn cynnwys saith prif thema:

  • y cyd-destun byd-eang y mae Tirweddau Dynodedig yn gweithredu oddi mewn iddynt, y modd yr ydym yn dysgu o fannau eraill, ynghyd â rhinweddau arferion da ar lefel byd-eang
  • pwysigrwydd fframwaith strategol ar gyfer pob Tirwedd Ddynodedig yng Nghymru i flaenoriaethu gweithgareddau oddi mewn iddo, a chael effaith yn gyflym er mwyn mynd i’r afael â’r ddwy her o ran adfer natur a’r newid yn yr hinsawdd
  • dull gweithredu ‘Tîm Cymru’ a’r modd y gall gwell cydweithrediad hybu effeithiolrwydd
  • yr ysgogiadau o ran polisi sydd gennym i greu newid; y cyfleoedd a’r cyfyngiadau
  • pwysigrwydd GIS, setiau data, a gwerth gwaith mapio wedi’i dargedu o ran byd natur (a gefnogir gan ddau brosiect peilot)
  • rôl Tirweddau Dynodedig o ran cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i gyflawni er budd natur
  • pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant o ran ysgogi arloesedd, newid ymddygiad ac effeithiolrwydd

Y Canlyniad

Caiff Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol eu cydnabod ar lefel fyd-eang fel ardaloedd gwarchodedig Categori V. Er ei bod yn bwysig diffinio amcanion ar gyfer ardaloedd gwarchodedig, ynghyd â deall y rôl y gallant ei chwarae o ran cyfrannu at dargedau ehangach ar lefel fyd-eang, y prif fater yw eu heffeithiolrwydd.

Mae rheoli ardaloedd gwarchodedig Cymru mewn modd effeithiol yn hanfodol ar gyfer adfer natur.

Mae Tirweddau Dynodedig yng Nghymru mewn sefyllfa ardderchog i ddysgu yn sgil y syniadau sy’n deillio o ddwy o raglenni’r Cenhedloedd Unedig – y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, y caiff y ddau eu dwyn ynghyd yn naturiol trwy’r Dull Tirwedd[1], sy’n cael ei fframio yng Nghymru gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015[2], y mae canllawiau[3] rheoli Ardaloedd Gwarchodedig Categori V yr IUCN yn darparu’r mecanwaith llywodraethu ar eu cyfer.

Ceir sawl menter fyd-eang sydd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn gallu helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer tirweddau dynodedig. Bydd ehangu ein safbwynt byd-eang o ran rheoli Ardaloedd Gwarchodedig yn cefnogi arloesedd, yn herio rhagfarnau diwylliannol, ac yn y diwedd yn hybu effeithiolrwydd tirweddau dynodedig yng Nghymru.

Mae gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol dri phrif amcan: gwarchod amrywiaeth biolegol; defnyddio elfennau amrywiaeth biolegol mewn modd cynaliadwy; ynghyd â rhannu’r buddion sy’n deillio o ddefnyddio adnoddau genetig mewn modd teg a chyfiawn.  Mae’r dull integredig o reoli gwaith cynllunio a fabwysiadir gan y Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol yn ddelfrydol ar gyfer hyrwyddo’r amcanion hyn mewn modd sy’n adlewyrchu eu rhyngddibyniaethau.

Mae cynllunio ar gyfer rheoli yn broses gyfranogol sy’n integreiddio blaenoriaethau cenedlaethol ag anghenion lleol. Cynlluniau ar gyfer yr ardal yw’r rhain, nid ar gyfer yr awdurdodau, sy’n cael eu diwygio bob pum mlynedd. Felly mae dwy ddogfen yn arbennig o bwysig – y canllawiau ar gyfer Cynllunio Gwaith Rheoli sy’n cael eu datblygu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â fframwaith strategol ar gyfer Cymru gyfan, sy’n cael ei ddatblygu gan Tirweddau Cymru[4], sy’n nodi grŵp o nodau integredig a ddyluniwyd i gyflymu’r broses o gyflawni’r cynlluniau hyn, ac i roi newid ar waith ar lefel systemau. Bydd y dogfennau hyn yn helpu i fframio penderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn o newid.

Roedd trafodaethau hefyd yn amlygu pwysigrwydd yr adroddiadau ar Gyflwr y Dirwedd. Byddai’r rhain yn rhoi cipolwg ar eu cyflwr sylfaenol ar hyn o bryd, yn rhoi adborth ar effeithiolrwydd polisïau presennol, ac yn modelu senarios at y dyfodol. Mae prosesau casglu data sylfaenol yn rhy amrywiol ar hyn o bryd i gefnogi gwaith cynllunio strategol a blaenoriaethu ar lefel Cymru.

Mae’r Ddyletswydd Sylw yn biler statudol canolog o ran cyflawni dibenion Tirweddau Dynodedig. Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i ‘awdurdodau perthnasol’ a amlinellir yn y ddeddfwriaeth sydd wedi’u rhwymo i roi sylw i ddibenion dynodiad. Mae hyn yn golygu bod angen iddynt ystyried canllawiau, a ‘chael a rhoi rhesymau clir’ ar gyfer unrhyw wyriad oddi wrthynt. Mae’r Ddyletswydd Sylw yn berthnasol i bob swyddogaeth, nid dim ond y rheiny yng nghyswllt cynllunio, ac mae’n berthnasol, p’un a yw swyddogaeth yn un statudol neu ganiataol.

Mae’n bwysig nodi bod y ddyletswydd ‘i roi sylw’ yn seiliedig ar brosesau yn hytrach na chanlyniadau, e.e. mae’r sylw ar b’un a yw awdurdod perthnasol wedi meddwl am ddibenion dynodiad ai peidio, yn hytrach na’r modd y gall weithio mewn partneriaeth i’w hyrwyddo trwy ei benderfyniadau. Mae effeithiolrwydd y ddyletswydd hon yn annigonol ar hyn o bryd, felly cam gwerthfawr fyddai sefydlu Fforwm Awdurdodau Perthnasol Cenedlaethol i weithio ar y cyd ar raddfa genedlaethol strategol i ysgogi newid systemig, a darparu’r cyd-destun ar gyfer cynlluniau rheoli ar gyfer tirweddau dynodedig unigol.

Gan gydnabod bod y ddyletswydd sylw wedi’i chryfhau’n ddiweddar yn Lloegr, gyda gofyniad i fod yn fwy rhagweithiol, mae gwerth mewn monitro effaith y newid hwn, gyda golwg ar asesu’r angen am newid yn y dyfodol o ran deddfwriaeth.

Mae tirweddau dynodedig yn fannau lle mae’r rhyngweithiad rhwng pobl a byd natur dros gyfnod o amser wedi creu ardal ag iddi gymeriad unigryw, a chanddi werth arwyddocaol o safbwynt ecolegol, biolegol, diwylliannol a golygfaol[5]. Mae cydnabod a pharchu’r rhyngweithiad hwn yn hollbwysig o ran eu rheoli mewn modd effeithiol. Mae ystyried mynediad, cynhwysiant, tegwch a chyfiawnder yn ffurfio rhan annatod o benderfyniadau yng nghyswllt yr amgylchedd. Mae hyn yn hanfodol o ran datgloi’r ysgogiad, yr arloesedd a’r camau gweithredu ymarferol a fynnir i ysgogi adferiad natur mewn Tirweddau Dynodedig.

Cydnabuwyd bod dull Tîm Cymru’n allweddol i ddatgloi potensial Tirweddau Dynodedig. Mae llawer o gydweithredu’n digwydd eisoes, ond mae gweithio tuag at greu prosesau a chysylltiadau symlach, cyflymach, a mwy effeithlon gyda phartneriaid cyflawni allweddol ym maes cadwraeth yn hanfodol. Mae mynd i’r afael â materion o ran trwyddedu a chaniatáu yn flaenoriaeth. Ceir awydd hefyd am ddull mwy cydweithredol o fynd i’r afael â llywodraethu, sicrhau dulliau cyflawni symlach, a rheoli risg.

Yn ystod y trafodaethau, mae Tirweddau Cymru wedi creu mapiau adfer natur ar gyfer dwy Dirwedd Ddynodedig. Canlyniad y broses ailadroddus a chydweithredol hon oedd cyfres derfynol o fapiau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer adfer natur a oedd yn amlygu blaenoriaethau o ran cadwraeth, cyfleoedd i adfer natur ar raddfa tirweddau cyfan, ynghyd â lle i dargedu atebion ar gyfer adfer natur. Bydd mabwysiadu’r dull hwn ar hyd a lled pob Tirwedd Ddynodedig yn allweddol i fynd i’r afael ag adfer natur yn gyflym, ac ar raddfa fawr.

Ers eu creu, mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a phartneriaethau Tirwedd Cenedlaethol yn cydweithio gyda ffermwyr, gan gydnabod mai amaethyddiaeth yw’r prif fath o ddefnydd tir, ac mae’n fecanwaith cyflawni allweddol o ran mynd i’r afael ag argyfyngau byd natur a’r hinsawdd mewn modd effeithiol. Felly mae system gymhellion gadarn a chynaliadwy i gefnogi ffermwyr a thyfwyr yn hanfodol. Mae datblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru, sy’n darparu cyfle i integreiddio dibenion Tirweddau Dynodedig gyda chymhellion ar gyfer arferion agroecolegol cadarnhaol, yn adlewyrchu pwysigrwydd buddsoddi yn eu nodweddion arbennig, ac yn cefnogi camau i gyflawni’r dyletswyddau economaidd gymdeithasol a llesiant, sy’n hollbwysig.

Trwy gynllunio gwaith rheoli mewn modd cyfranogol, gallai cyrff sy’n ymwneud â thirweddau dynodedig hwyluso sgyrsiau lleol gyda ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir er mwyn cydgreu gweledigaeth rymus ar gyfer cynhyrchu bwyd a ffermio ar raddfa tirweddau cyfan yn y dyfodol. Gallai timau gynnig dull strategol o gyflawni’r weledigaeth hon, gan gydweddu dulliau rheoli tir cadarnhaol â chamau i adfer natur, ynghyd ag elfennau eraill o harddwch naturiol. Mae eu dealltwriaeth fanwl o’r ardal, ynghyd â chysylltiadau cryf ar lefel leol, yn darparu’r gallu i arwain y cysylltiad rhwng canlyniadau Cynllun Ffermio Cynaliadwy a manteisio i’r eithaf arnynt ac adfer natur.

Roedd y grŵp felly’n amlygu pwysigrwydd ymgynghorwyr arbenigol, sydd wedi’u hymsefydlu o fewn Tirweddau Dynodedig ond yn gweithio trwy Tirweddau Cymru, o ran galluogi dull cyson o ymgysylltu â ffermwyr. Byddent yn hwyluso gwaith i rannu gwybodaeth ac arbenigedd er mwyn gallu teilwra camau gweithredu ar gyfer tirweddau unigol. Mae gwybodaeth leol, cefnogaeth deilwredig, amodau, ac ymyriadau sy’n troi blaenoriaethau cenedlaethol yn gyfleoedd perthnasol ar lefel leol, yn allweddol i sicrhau gwaith rheoli effeithiol ac adfer natur.

Mae cyfranogiad y cyhoedd mewn gwaith cynllunio a phenderfyniadau yn hanfodol ar gyfer rheoli tirweddau dynodedig mewn modd effeithiol. Nid yn unig y mae hyn yn helpu i feithrin consensws o ran cynlluniau gweithredu sydd wedi’u cydgreu, ond mae’n helpu i fynd i’r afael â materion o ran cyfiawnder a thegwch. Mae cael deialog cyfranogol yn gam hanfodol cyn gallu cyflawni targedau brys o ran yr hinsawdd a byd natur.  Bydd yn helpu i ysgogi’r newid ymddygiadol a fynnir ochr yn ochr â deddfwriaeth, ac yn sicrhau y caiff natur ddiwylliannol tirweddau dynodedig Cymru ei hadlewyrchu mewn gwaith cynllunio a phenderfyniadau.

Mae’r penderfyniadau a wneir gan bobl, ynghyd â’r ymddygiadau a fabwysiadir ganddynt, wrth wraidd y gallu i ddatgloi potensial tirweddau dynodedig er mwyn cyflawni mwy ar gyfer byd natur.

Argymhellion

Mae’r grŵp yn gwneud 9 argymhelliad allweddol ar hyn o bryd

  • Dylai Tirweddau Dynodedig ymgysylltu’n weithredol ag arferion da byd-eang wrth ddiffinio, cynllunio a monitro effeithiolrwydd rheoli ardaloedd gwarchodedig, cyfrannu atynt a dysgu oddi wrthynt.
  • Dylai Canllawiau Cynllun Rheoli Diweddaraf CNC ddarparu ffocws ac uchelgais o’r newydd a diffinio’r fframwaith ar gyfer cyflawni argymhellion yr Archwiliad Dwfn.
  • Dylid archwilio’r ‘Adroddiadau ar Gyflwr y Dirwedd’ fel mecanwaith i glustnodi llinellau sylfaen, ategu camau i osod amcanion, llunio cynllun senario, a thargedu gweithgareddau.
  • Nid yw’r ddyletswydd sylw’n cael ei harfer i’r eithaf ar hyn o bryd. Mae’r grŵp yn argymell sefydlu Fforwm Awdurdodau Cenedlaethol Perthnasol a gefnogir gan ddiweddariad o’r canllawiau a62/ a85 presennol.
  • Mae angen cryfhau gallu’r System Gwybodaeth Ddaearyddol o fewn y Tirweddau Dynodedig.
  • Mae angen i ehangder a dyfnder y cydweithio rhwng Tirweddau Dynodedig fod yn fwy eang, fel bod rhoi ystyriaeth i faterion mynediad, cynhwysiant, tegwch a chyfiawnder yn elfen annatod o’r cydweithio.
  • Mae ymagwedd Tîm Cymru at lywodraethu ar y cyd, cyflawni symlach, a rheoli risg yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r heriau technegol sy’n gysylltiedig â chaniatáu, trwyddedu, a chyllid grant.
  • Mae datblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gyfle i gyfuno dibenion Tirweddau Dynodedig gyda chymhellion ar gyfer arferion ffermio cadarnhaol. Byddai ymgynghorwyr arbenigol, sydd wedi’u hymsefydlu o fewn Tirweddau Dynodedig ond sy’n gweithio mewn partneriaeth drwy TCLW, yn galluogi dull mwy cyson o ymgysylltu â ffermwyr a rheolwyr tir.
  • Y Rhaglen Diwygio Mynediad yw’r allwedd i greu diwylliant o barch, cydweithredu a chysylltu ag amgylchedd naturiol Cymru, gan feithrin ymdeimlad o stiwardiaeth ac ymddygiad o blaid yr amgylchedd. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall weithio gyda CNC a’r Tirweddau Dynodedig i godi ei phroffil.

I Gloi

Mae’r cyfraniad a wneir gan Barciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol tuag at adfer natur yn sylweddol, ond mae ganddynt y potensial i wneud mwy. Mae’r argymhellion hyn yn cynrychioli’r cam cyntaf tuag at wneud hynny. Nid yw bob un ohonynt wedi’u cyfeirio at eraill – mae’r argymhellion eu hunain yn adlewyrchu natur integredig unrhyw dirwedd, ynghyd â’r cydgyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom i helpu i ddatgloi potensial y lleoedd hyn, sydd wedi’u dynodi ar lefel genedlaethol i gyflawni mwy ar gyfer byd natur.

 

Howard Davies

Cadeirydd Annibynnol

Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth – Y Grŵp Arbenigwyr Tirweddau Dynodedig

Cyhoeddwyd gyntaf ar wefan SCNP

 

[1] https://www.iucn.org/resources/publication/protected-landscape-approach-linking-nature-culture-and-community

[2] https://www.futuregenerations.wales/about-us/future-generations-act/

[3] https://www.iucn.org/resources/publication/management-guidelines-iucn-category-v-protected-areas-protected

[4] https://landscapeswales.org.uk/

[5] https://portals.iucn.org/library/sites/library/files/documents/PAG-021.pdf