Bydd adnoddau addysgol newydd sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael eu datblygu fel rhan o brosiect cydweithredol rhwng yr wyth o dirweddau dynodedig yng Nghymru a ariennir gan y gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy.
Dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro bydd y prosiect yn gweld cydweithio rhwng y cymunedau addysgu a’r tirweddau dynodedig yng Nghymru, i ddylunio a chreu adnoddau dysgu sydd ar gael i bob addysgwr.
Bydd yr adnoddau hygyrch yn ategu dysgu ac yn hyrwyddo dealltwriaeth, gwerthfawrogiad a stiwardiaeth o’r tirweddau dynodedig a’r amgylchedd ehangach.
Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei roi ar waith eleni, felly dyma’r amser perffaith i ddatblygu a chreu adnoddau addysgol sy’n cysylltu’r cwricwlwm newydd â thirweddau dynodedig Cymru.
“Mae gan ein Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a’n Parciau Cenedlaethol rôl mor bwysig i’w chwarae o ran cefnogi addysgu a dysgu ar draws ystod o feysydd sy’n amrywio o gynefinoedd a bioamrywiaeth i reoli tir yn gynaliadwy, newid hinsawdd, diwylliant ac iaith, a’n hiechyd a’n lles.
“Y nod yw creu adnoddau hygyrch, dwyieithog ar gyfer ysgolion ac addysgwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn adeiladu ar yr arfer da a ddeilliodd o’n rhan yn y bartneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn creu adnoddau addysg lleol.”
Mae’r ymgynghorwyr Meddwl, Dysgu, Herio, sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau addysgol dwyieithog, wedi’u comisiynu i weithio gyda’r tirweddau dynodedig i ddatblygu’r adnoddau. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio datblygu hunaniaeth gyfunol ar gyfer adnoddau dysgu ar draws y tirweddau dynodedig i hyrwyddo mynediad i’r agwedd hon o’u gwaith.
Fel rhan o’r datblygiad hwn, mae Meddwl, Dysgu, Herio yn gofyn i athrawon ac addysgwyr helpu drwy lenwi arolwg byr, a geir yma. Mae’r arolwg ar agor tan y 30ain o Fehefin.
Cefnogir y prosiect hwn gan gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy, a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru a Thirweddau Cymru. Mae’r gronfa hon yn rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf ar draws yr wyth o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru, sy’n eu galluogi i gyfrannu at amcanion allweddol Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer byd natur, cyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cydnerth a gwyrdd a darparu twristiaeth gynaliadwy.
