Yn sgil prosiect i warchod a chyfoethogi bioamrywiaeth mewn mannau addoli ac adeiladau cyhoeddus yn Nhirwedd Genedlaethol Gŵyr, yn ddiweddar gosodwyd 14 o flychau nythu ar gyfer gwenoliaid duon yn Eglwys San Gwynour, Llanyrnewydd, Pen-clawdd.
Cafodd y blychau pwrpasol hyn eu gwneud â llaw gan wirfoddolwyr lleol sy’n danbaid dros warchod bywyd gwyllt – diolch o galon i Howard ac Alan!
Adeiladwyd ffrâm bren a rhoddwyd y blychau’n sownd ynddi. Mae’r ffrâm a’r blychau wedi’u gosod wrth agoriad ffenestr tŵr yr eglwys.
Mae’r blychau nythu wedi’u gosod mewn modd sy’n sicrhau bod y tyllau mynediad yn gorwedd yn agoriadau’r ffenestri louvre. Bydd modd i’r gwenoliaid duon wibio rhwng y bylchau yn y ffenestri louvre ac i mewn i dyllau’r blychau. Mae’r blychau wedi’u paentio’n ddu, felly nid oes modd eu gweld o’r tu allan. Hefyd, byddant yn cyfyngu ar faint o law a all fynd i mewn i’r tŵr, a dylai hynny helpu i wella’r amodau llaith. Yn y gwanwyn, bydd dyfais alw yn cael ei gosod er mwyn helpu i ddenu’r adar at eu blychau newydd.
Medd Ursula Jones, Swyddog Prosiect Cymunedau a Natur, Tirwedd Genedlaethol Gŵyr:
“Mae gweld a chlywed gwenoliaid duon yn hedfan fry uwchben yn arwydd i gynifer ohonom fod yr haf wedi cyrraedd. Mae’n rhan o’n treftadaeth naturiol.
“Yn anffodus, mae niferoedd gwenoliaid duon wedi dirywio’n fawr. Yn ôl Arolwg Adar Bridio Ymddiriedolaeth Adareg Prydain ar gyfer 2021, mae poblogaeth fridio gwenoliaid duon yn y DU wedi gostwng 60% rhwng 1995 a 2020. Credir bod cyfuniad o ffactorau wrth wraidd hyn, yn cynnwys llai o bryfed i’w bwyta, cynllun adeiladau modern a’r ffaith bod hen adeiladau’n cael eu hailwampio gan leihau nifer y mannau nythu. Mae gwenoliaid duon yn cadw’n ffyddlon i’w safleoedd nythu, felly pan fydd safleoedd o’r fath yn cael eu tynnu wrth ailwampio adeiladau, ni fydd y gwenoliaid duon sy’n defnyddio’r safle hwnnw yn gallu bridio.”
Gallwch helpu gwenoliaid duon trwy arddio mewn ffordd sy’n gyfeillgar i bryfed, trwy blannu blodau gwyllt brodorol, trwy beidio â defnyddio plaladdwyr a thrwy ladd y gwair yn anamlach. Hefyd, gallwch ddarparu safleoedd nythu fel blychau neu frics mewn adeiladau newydd a thrwy osod blychau nythu ar adeiladau sy’n bodoli’n barod.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y modd y gallwch roi help llaw i wenoliaid duon, cysylltwch â Saving Swansea’s Swifts – Cymdeithas Adareg Gŵyr (gowerbirds.org.uk)
Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy yn cefnogi’r rhaglen hon. Fe’i gweinyddir trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru a Thirweddau Cymru Landscapes Wales. Mae Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy yn rhaglen buddsoddi cyfalaf ar draws wyth o Dirweddau Dynodedig Cymru, gan eu galluogi i gyfrannu at amcanion Llywodraeth Cymru, sef hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer natur, cyflymu datgarboneiddio, cefnogi cymunedau cadarn a gwyrdd ac esgor ar dwristiaeth gynaliadwy.




